Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-11

Blog fideo arall

Wedi bod i ginio dyma fynd mewn i'r dref i brynu bocs tŵls ar gyfer dal yr holl bethau bach 'na sydd o gwmpas y tŷ ac sydd angen eu cadw ac mae'n amhosib eu rhoi mewn drôr neu rywbeth tebyg. Fe ges i focs rhad a phlastig yn siop Woolworth (ble arall) fydd yn ddigon da am beth sydd ei angen arna i. Ac fel yr oeddwn i ar fy ffordd 'nôl i'r tŷ dyma gwrdd â GC, MLJ a TLlJ - roedd yn rhaid mynd i'r Caban i gael coffi a sgwrs. Dyna beth wnaeth TLlJ a finnau, aeth y lleill i'r siop fideo. Yn y Caban dyma wneud fideo arall ar gyfer y blog. Os nad ydych chi wedi bod yn y Caban erioed, dyma ichi'r profiad yr ych chi'n ei golli!



Tagiau Technorati: | | .