Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-12

Darganfyddiadau defnyddiol

SlipersMae glanhau'r gwanwyn wastad yn dod â'i sypreisys, a dyw pethau ddim yn wahanol iawn y tro yma. Wrth dwrian yn y cypyrddau a thrwy'r trugareddau sydd o gwmpas y lle mae dyn weithiau yn taro ar draws hyw bethau nad oedd e'n cofio eu bod nhw gydag e. Roeddwn i yn cofio bod gen i slipers, ond doedd gen i'r un syniad ble i fynd chwilio amdanyn nhw, felly roeddwn i wedi gadael i bethau fod. Ond wrth glirio rhyw hen focs cardfwrdd nad oeddwn wedi edrych ynddo ers misoedd os nad blynyddoedd fe ddaeth y slipers hyn i'r golwg. Ers iddyn nhw ddiflannu dwi wedi bod yn meddwl prynu rhai newydd, ond gan fy mod yn gwybod eu bod nhw yn y tŷ yn rhywle roeddwn wedi oedi ac oedi ac oedi. Dwi wedi bod yn cerdded rownd y tŷ un ai mewn sgidiau neu yn fy sanau ers imi 'golli' y slipers. A diolch nawr 'mod i wedi cael fy hen slipers yn ôl. "O frabjous day! Callooh! Callay!" fel dwi'n siŵr y buasai Lewis Carol wedi'i ddweud o ddod o hyd i'w slipers yntau.

Tagiau Technorati: .