Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-11

Glanhau'r gwanwyn

Rhewgell ffridj DogfaelMae'n rhyfedd sut mae rhywbeth yn eich taro ac mae'n rhaid ichi ei wneud y funud honno. Fel arfer mae hynny'n digwydd ar ganol gwneud rhywbeth arall sy'n fwy o flaenoriaeth ac yn bwysicach. Fel arfer dwi wedi addo erthygl neu gyfiethiad neu rywbeth ac mae'r dedlein ar ddod neu wedi mynd heibio a dwi'n dal i gael fy nhynnu i gyfeiriadau eraill. Pan dwi â rhywbeth i'w wneud dyna'r amser y mae glanhau fel arfer yn dod yn flaenoriaeth. Ar ôl blynyddoedd o lanhau pob smotyn o lwch y gallwn ei weld, dros y misoedd diwethaf yma dwi wedi bod yn gadael i bethau i fynd; ond dwi wedi dod 'nôl i'r llwybr taclus ac wrthi'n gwneud fy nglanhau gwanwyn. Fe ddechreuais gyda rhan oergell o'r ffridj yr wythnos diwethaf ac wedyn mynd i'r afael â'r ystafell ymolchi. Nawr dwi'n troi at ddadleth rhan y rhewgell o'r ffridj a thacluso'r ystafell wely. Nid wyf yn byw mewn fflat enfawr felly mae unrhyw drugareddau sydd o gwmpas y lle ac sydd angen eu cuddio yn gorfod mynd i'r ystafell wely, mae hynny'n golygu bod yr ystafell wely yn orlawn trugareddau. Sbwriel yw 95% ohonynt sydd angen eu taflu ond wrth gwrs mae'n cymryd amser i fynd trwy'r cyfan yn chwilio am 5% sydd angen gwneud rhywbeth ag e.

Yr ysbrydoliaeth wrth lanhau wastad yw Kim Woodburn ac Aggie MacKenzie, awduron y llyfr How clean is your house? a sêr y rhaglen deledu o'r un enw. Mae'n llyfr gwych i roi ysbrydoliaeth ynglŷn â glanhau, a gallwch chi ddim dweud hynny am lawer o lyfrau! Yr hyn sy'n dda am y llyfr yw'r cyngor ar sut i ddefnyddio pethau cyffredin bob dydd i lanhau yn hytrach na prynu stwff glanhau masnachol. Dwi'n cofio fy mam a fy mamgu yn defnddio rhai o'r pethau - fel papur newydd a dŵr a finegr neu sudd lemwn i lanhau gwydr ffenestri. A dyna dim ond un o gannoedd o gynghorion defyddiol sydd yn y llyfr. Mae glanhau yn therapi da iawn yn fy marn i a dwi wastad yn teimlo'n well ar ôl ychydig o ddad-siwncio egnïol.

Bagiau sbwriel

Dwi'n gwybod yn barod beth fydd rhai yn dweud. "Pam nad wyt ti'n ailgylchu? Dyw hi ddim yn rhyw 'wyrdd' iawn i roi'r holl sachau sbwriel 'na mas!" A'r ateb yw hyn - pan fydd clymblaid ddiflas a diddychymyg y Grŵp Annibynnol a'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n rhedeg Ceredigion yn trefnu casgliad stryd bydd popeth yn iawn. Dwi'n ofni 'mod i ddim yn mynd i gario'r cwbwl ar draws y dref! Brysied y dydd pan fydd hynny'n digwydd yn nhref Aberyswyth!

Tagiau Technorati: .