Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-28

Gwneud pancos

Dyma'r rysáit wnes i ei defnyddio ar gyfer gwneud fy mhancos heno.

Cynhwysion
250g fflwr plaen
pinsiad o halen
3 wy
400ml llaeth
200ml dŵr
2 lond llwy ford o olew llysiau

Dull
1. Rhoi'r fflwr a'r halen mewn powlen a'u cymyhsgu.
2. Gwneud twll yn y canol a rhoi'r wyau ynddo.
3. Cymysgu'r llaeth a'r dŵr gyda'i gilydd.
4. Cymysgu'r wyau a'r fflwr gyda llwy bren ac yna'n raddol ychwanegu'r llaeth gan droi'r gymysgedd yn gyson hyd nes bod y cyfan yn hylif tebyg i drwch hufen.
5. Cymysgwch yr olewn i mewn iddo a'i adael i sefyll am hanner awr.
6. Cynhewch ffrimpan a defnyddiwch papur cegin i daenu ychydig olew ar hyd-ddi.
7. Arllwyswch ryw lond llwy ford o gytew yn y ffrimpan a'i droi o gwmpas. Cogniniwch y bancosen hyd nes ei bod yn euraidd, ac yn trowch hi drosodd a choginio'r ochr arall yn yr un modd.
8. Os yw'r bancosen gyntaf yn rhy drwchus peidiwch â phoeni, ychwanegwch ychydig o laeth at y cytew. Gwenwch fwy o bancos o weddill y cytew. Mae'n gwned digon o bancos.


Tagiau Technorati: | .