Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-21

Darganfod 'hen' ffotograffau

Cymdeithas yr Iaith yn cysgodi o dan gromlech Pentre IfanWrth wneud y glanhau dwi wedi dod ar draws nifer o ffotograffau dwi wedi'u tynnu dros y blynyddoedd ac o'r diwedd gyda'r dechnoleg fodern dyma gyfle i roi rhyw fath o drefn arnyn nhw. Dwi'n bwriadu sganio'r cwbl - does dim nifer fawr iawn ohonyn nhw i gyd. Yr amlen gyntaf imi eu digido yw ffotograffau a dynnwyd ar adeg penwythnos yn Sir Benfro wedi'i drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Os dwi'n cofio'n iawn roedd yn gyfarfod i edrych ar yr agenda iaith ar ddechrau'r mileniwm newydd, ac ar ôl sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol. Roeddwn i wedi mynd yn benodol i arwain taith o gwmpas rhai o lefydd nodedig gogledd y sir. Roedd rai ffotograffau yn yr amlen hefyd yn perthyn i AT ac fe fyddaf yn eu hanfon yn ôl ati hi cyn diwedd yr wythnos - lluniau ohoni hi ac DML yn mynd i'r afael ag Alun Michael pan roedd yntau yn dal i fod Brif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae mwy o ffotograffau i ddod dros yr wythnosau nesaf.

Y cyfarfod ym Mhentre Ifan, Sir Benfro.

Lluniau AT o brotest ym Machynlleth.

Tagiau Technorati: | | .