Ddydd Sadwrn fe fues i am daith ar un o'r bysus 550 newydd i Aberaeron. Nid yr hen fath sy'n eich ysigo'n i waelod eich bodolaeth oherwydd diffyg cyfforddusrwydd cyffredinol y seddau a'r bws. Na, roedd y bws yn un o'r rhai modern sydd wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth y Cynullliad ac roedden nhw'n bendant eich bod chi'n gwybod hynny. Er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod roedd logo'r Llwyodraeth wedi'i blastro dros y bws i gyd, gan gynnwys y ffenestri. Felly os yw unrhyw un am edrych ar y golygfeydd gwych sydd ar hyd taith y 550 o Aberystwyth i Aberteifi mae'n rhaid edrych trwy Logo y Llywodraeth. Mae dyn yn dechrau cael llond bol o'r logo ym mhob man!
Profwch dros eich hun pa mor ymwthiol yw logo Llywodraeth y Cynulliad wrth deithio ar y bws drwy wylio'r fideo byr hwn.
Lawrlwytho'r ffeil
Tagiau Technorati: Logos | Bysus.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.