Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-22

Carchar... am ddweud celwydd

Mewn un ffordd roedd carcharu'r hanesydd David Irving am wadu'r holocost yn weithred eithafol iawn mewn gwladwriaeth ddemocrataidd. Nid yw hi'n beth arferol i gosbi haneswyr am beidio â gwneud eu gwaith yn iawn - ni all y meirw fynd â neb i gyfraith am enllib nag athrod (yng Nghymru a Lloegr o leia) ac felly, fel arfer, caiff haneswyr gwael eu hanwybyddu. Nid oes unrhyw amheuaeth fod rhai pobl yn ystyried Irving yn hanesydd gwael, a dyna oedd canlyniad cyfreithiol ei achos enllib yn erbyn hanesydd Americanaidd a'i cyhuddodd o fod yn wrth-Semitig ac o wadu'r holocost, achos Irving yn erbyn Lipstadt a Penguin books. Mae 'na rai haneswyr prif ffrwd sy'n edmygu ei ddulliau ymchwil a'i wreiddioldeb fel hanesydd; ond nid oes un o'r rheiny yn cytuno gyda'i ddamcaniaeth ynglŷn â Hitler a'r holocost.

Ond a oedd hi'n iawn i'w garcharu ac a ddylai gwadu'r holocost fod yn drosedd? Mae'n ddiddorol bod Awstria wedi creu deddf yn gwneud gwadu'r holocost yn drosedd yn 1946, yn union wedi diwedd Rhyfel byd, 1939-1945. Mae'n arwyddocaol hefyd bod Irving wedi'i garcharu am sylwadau a wnaed yn 1989 ac yntau wedi dychwelyd i Awstria gan wybod bod ei fod yn debyg iawn o gael ei arestio petai'r awdurdodau yn dod o hyd iddo. Ac yntau yn pledio'n euog i drosedd yn ôl cyfraith Awstria yr oedd yn gwbl bosib iddo gael ei garcharu. Ond y cwestiwn anodd yw a ddylai y fath ddeddf fodoli, deddf sy'n ei gwneud hi'n drosedd i ddweud celwydd am un digwyddiad hanesyddol?

Yn bersonol nid wyf yn credu bod gwneud gwadu'r holocost yn drosedd yn ateb dim ar y broblem pam bod pobl yn dymuno gwadu'r peth yn y lle cyntaf. Nid yw yn gwneud dim ond troi rhai yn 'ferthyron' dros eu hachos, fel David Irving ei hun. Y mae ef yn casglu o'i gwmpas rhyw gymysgedd ryfedd o ddeallusion a thugs sy'n coleddu'r un syniadau asgell dde eithafol ag yntau. Nid y gyfraith yw'r ateb gan bod y dymuniad i wadu'r holocost yn un gwleidyddol yn y bôn yn hytrach na hanesyddol. Mae gwadu'r holocost yn mynd llaw yn llaw ag agenda hir o agweddau gwrth-semitig sy'n perthyn i'r dde eithafol. Ac os yw hi'n drosedd gwadu'r holcost yna fe ddylai hefyd fod yn drosedd gwadu hil-laddiad yr Armeniaid a ddigwyddodd wrth i'r Ymerodraeth Otomannaidd ddadfeilio a'r wladwriaeth Dwrcaidd gael ei chreu. Gweithred wleidyddol ar ran cenedlaetholwyr Twrcaidd yw'r gwadiad hwnnw. Ac os yw'n drosedd i wadu hynny, beth am hil-laddiad brodorion America, ac yn y blaen, ac yn y blaen?

Dyma fideo o adroddiad Newyddion BBC ar yr hyn a ddigwyddodd yn yr hen Iwgoslafia. Beth fuasai ymateb pobol petai rhywun yn gwadu fod y pethau yma wedi digwydd? Bwrw sen am ben yr hanesydd oherwydd ei fod yn hanesydd gwael, neu ei garcharu am ddweud celwydd?


Lawrlwytho'r ffeil

[Tynnwyd y fideo o gasgliad o adroddiadau newyddion hanesyddol sy'n cael eu cynnig ar wefan y BBC er mwyn eu defnyddio'n greadigol gan y cyhoedd, Open News Archive. Dyma fy ymgais gyntaf i.]

Tagiau Technorati: | .