Mae dod o hyd i'r ffotograffau 'coll' wrth lanhau wedi ysgogi atgofion melys iawn. Roedd un o'r amlenni ffotograffau yn cynnwys lluniau a dynnwyd yn bennaf ar drip pen-wythnos i Sir Benfro yn 1990. Fe es i â thri o ffrindiau i Sir Benfro er mwyn dangos y lle iddyn nhw - Alan King (Sais oedd wedi dysgu Basgeg yn rhugl), Begotxu Olaizola (Basges) ac Annie Ebrel (Llydawes) - ein hiaith gyffredin oedd Cymraeg. Aethon ni dros y lle i gyd gan gynnwys Tyddewi, Caerfarchell, Llanwnda, Dinbych-y-pysgod, ac wrth gwrs Cofeb Waldo. Roedd y tywydd yn wych ac fe wnaethon ni fwynhau mas draw. Dwi'n dal i gofio'r haul yn disgleirio ar y môr ger Capel Non, Tyddewi. A fan'ny uwchben y môr fe wnaethon ni fwyta picnic - y picnic mwyaf blasus yn y byd i gyd!
Rhagor o luniau o'r trip i Sir Benfro yn 1990.
Tagiau Technorati: Atgofion | Ffotograffau | Sir Benfro.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.