Rydw i newydd fod yn darllen hanes Chris Cope ar wefan y BBC. Chris yw'r dysgwr Cymraeg rhyfeddol o'r Taleithiau Unedig sydd newydd gael ei dderbyn i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan taw Chris wnaeth fy ysbrydoli i flogio'n llafar dyma fynd ati ar unwaith i wneud hynny fel teyrnged iddo. Da iawn Chris, dal ati! Dwi'n edrych 'mlaen i ddarllen y nofelau 'na.
Ffeil MP3
Tagiau Technorati: Blog llafar | Cymraeg | Chris Cope.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.