Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-07

Ta ta, Siarlys, ta ta!

Charles KennedyWel fe aeth yr hen Charles Kennedy yn y diwedd. Doedd dim llawer o ddewis gydag e o wybod fod mwyafrif yr aelodau seneddol wedi dweud nad oedden nhw'n ei gefnogi. Dwi'n cydymdeimlo ag e fel unigolyn gan fod hyn wedi digwydd i raddau helaeth oherwydd ei salwch - ond roedd e wedi bod yn hunanol yn credu y gallai barhau fel arweinydd a'i salwch yn amlwg wedi bod yn broblem fawr iddo yntau ac i'w gyd-weithwyr dros y misoedd a'r blynyddoedd. Beth sy'n ddiddorol iawn hefyd yw'r ffordd y mae Lembit Öpik wedi stico gydag e, a'r modd y mae e wedi ymateb yn chwerw iawn i'r oll sydd wedi digwydd. Fe glywais i Öpik yn siarad ar y newyddion am ei fwriad i sefyll am yr arweinyddiaeth ei hun y tro nesaf y bydd etholiad. Ai crac yw e fod yr etholiad am yr arweinyddiaeth wedi dod nawr yn hytrach na'n hwyrach? Ai obaith e oedd sefyll wedi i Kennedy fynd ar ôl etholiadau seneddol 2008/9? Nawr mae ei gynlluniau ef i arwain y Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych yn fwy annhebyg nag o'r blaen - rhaid iddo yntau lunio amserlen a ffordd arall o wneud hynny. Ai dyna'r rheswm dros yr holl chwerwder?

Mae hi wedi bod yn ddiddorol iawn gwylio yr holl fynd a dod a chynllwynio ers i Kennedy wneud ei gyhoeddiad ddydd Iau, ond doedd dim llawer o obaith ganddo oroesi gan fod y Dem Rhyddiaid yn gwybod sut mae chwarae'n frwnt mewn gwleidyddiaeth yn fwy na neb arall. Ond doedd neb am gico dyn pan oedd e ar y llawr oherwydd y buasai hynny'n medru bod yn anfanteisiol iddyn nhw mewn unrhyw etholiad posib yn cynnwys yr holl aelodau.

Gyda llaw, ble mae Mark Williams wedi bod wrth i hyn i gyd ddigwydd?

Tagiau Technorati: .