Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-07

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (10)

Cerflun Edmund Burke, BrysteGer yr Hippodrome roedd 'na gerflun arall, cerflun o'r athronydd gwleidyddol Edmund Burke (1729-1797). Mae'r coffáu'r cyfnod y treuliodd Burke fel aelod seneddol dros Fryste rhwng 1774 ac 1780. Cafodd ei eni a'i fagu yn Nulyn - ei dad yn Brotestant a'i fam yn Babyddess - ond treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Lloegr fel aelod seneddol. Yn gynnar yn ei yrfa ymddangosai yn ychydig o radical gan gefnogi'r gwrthryfelwyr yn America, yn pledio achos rhydfreinio Pabyddion Iwerddon, ac yn feirniadol o dduliau Cwmni India'r Dywrain o weithredu. Ond y mae'n fwyaf enwog am wrthwynebu y Chwyldro Ffrengig yn chwyrn yn ei lyfr Reflections on the revolution in France (1790). Gwrthwynebai'r chwyldro am nad oedd yn credu y buasai'n arwain at ddemocratiaeth, yn hytrach plediai yntau newid graddol yn hytrach na chwyldro.

Nid oedd ei gysylltiad â Bryste yn un agos. Yn ôl yr hanes nid oedd yn ymwelydd cyson iawn â'i etholaeth, ond yma wrth ei ethol yn 1774 y traddododd araith bwysig yn gosod allan y modd y gwelai ef berthynas aelod seneddol a'i ddyletswydd i'w etholaeth ac i'r senedd yr oedd yn aelod ohoni. Mae ei Speech to the electors of Bristol yn dal i fod yn un o'r dogfennau hanfodol hynny y mae myfyrwyr democratiaeth seneddol yn ei darllen. Dyma un dyfyniad:
Parliament is not a congress of ambassadors from different and hostile interests, which interests each must maintain, as an agent and advocate, against other agents and advocates; Parliament is a deliberative assembly of one nation, with one interest — that of the whole — where not local purposes, not local prejudices, ought to guide, but the general good, resulting from the general reason of the whole. You choose a member, indeed; but when you have chosen him, he is not member of Bristol, but he is a member of Parliament. If the local constituent should have an interest, or should form an hasty opinion evidently opposite to the real good of the rest of the community, the member for that place ought to be as far as any other from any endeavour to give it effect. I beg pardon for saying so much on this subject; I have been unwillingly drawn into it; but I shall ever use a respectable frankness of communication with you. Your faithful friend, your devoted servant, I shall be to the end of my life: a flatterer you do not wish for. On this point of instructions, however, I think it scarcely possible we ever can have any sort of difference. Perhaps I may give you too much, rather than too little trouble.
Tony BennGwleidydd arall â chysylltiad agos ac arwyddocaol â Bryste yw Tony Benn, er na welais i'r un cerflun na chofeb yno. Efallai ei bod hi'n rhaid ichi farw yn gyntaf cyn cael y fraint honno. Etholwyd Benn yn aelod seneddol De Ddwyrain Bryste yn 1950, ond pan bu farw ei dad a oedd wedi derbyn sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn 1960 fe 'etifeddodd' Benn y teitl Viscount Stansgate ynghyd â'r sedd er nad oedd e am yr un o'r ddau! Doedd dim dewis ganddo roedd yn rhaid iddo etifeddu. Ymgyrchodd ef yn erbyn yr orfodaeth gan ymddiswyddo ac achosi is-etholiad lle'r enillodd y sedd fel rhan o'r ymgyrch. Penderfynodd llys etholiadol nad oedd hawl ganddo i'r sedd yn Nhŵ'r Cyffredin er cael ei ethol ac felly fe gafodd y Tori a ddaeth yn ail yr hawl i honno. Bu'n ymgyrchu'n galed iawn ar y mater a llwyddodd i gael y Llywodraeth i basio deddf yn 1963 yn caniatáu i bobol wrthod sedd yn Nhŷr Argwlyddi. Wedi pasio'r ddeddf ymddiswyddodd y Tori yn syth gan adael i Tony Benn ennill De Ddwyrain Bryste mewn is-etholiad arall yn 1963. Cadwodd ei sedd hyd nes i honno gael ei hail-lunio yn etholiad 1983 fel De Bryste a gwyntoedd Thatcheriaeth yn chwythu'n gryf iawn. Y flwyddyn ganlynol enillodd sedd Chesterfield mewn is-etholiad gan aros yn aelod seneddol hyd ei ymddeoliad yn 2001 er mwyn "rhoi mwy o amser i wleidyddiaeth".

Tagiau Technorati: | | | .