Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-07

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (11)

The Mall Galleries, BrysteDwi'n ofni efallai bod hanes fy ymweliad â Bryste yn rhoi argraff ryfedd i bobol o sut un ydw i mewn gwirionedd. Dwi ddim yn treulio fy holl amser yn ystyried crefydd, gwleidyddiaeth, a phethau eraill pwysigfawr. Mewn gwirionedd dwi'n reit hoff o bethau distadl a dwl, felly ar y ffordd yn ôl i'r gwesty fe wnes i alw heibio i Deml Mammon, neu ganolfan siopa The Mall Galleries. Dwi ddim yn credu imi erioed fod mewn canolfan siopa oedd mor gymhleth ac mae'n rhaid imi gyfaddef imi fynd ar goll. Bues i yn dringo ac yn disgyn ar esgaladuron dirif a methu'n deg â dod o hyd i fy ffordd allan. Roeddwn i'n gweld hynny fel rhyw fath o ddameg am sut mae cyfalafiaeth ryngwladol yn ein tynnu ni i mewn i'w grafangau gyda'r bwriad o'n cadw ni'n gaeth am byth i gonsumeriaeth ddiwerth a di-ddim.

O'r diwedd fe ddes i o hyd i ffordd allan heibio i W.H. Smith, a dyma fi'n cael fy hun yn lle ddechreuon ni'r daith ger hen dŷ-cwrdd Quaker Friars, a phwy welais i'n crwydro fel fi ond RO. Roedd e wedi bod yn chwilio am W.H. Smith, ond heb fentro i mewn i drofa The Mall Galleries. Fe aeth i chwilio am Smiths, ond rhoddais gyfarwyddiadau manwl iddo rhag ofn i gonsumeriaeth a chyfalafiaeth ryngwladol ei hudo i mewn ymhellach i'w teyrnas ddi-ddianc ddu. Fe ddaeth allan yn ddiogel!

Tu fewn i'r Mall Galleries, Bryste

Rhagor o luniau o The Mall Galleries, Bryste.

Tagiau Technorati: | | .