Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-20

'Porc peis'

Wynford yn cael ei holi gan EHGJHeno fe fues i mas mewn noson ardderchog yn Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru oedd wedi trefnu'r noson, sef EHGJ yn siarad gyda Wynfford Ellis Owen am y ffilm 'Por pei' a'r cyfresi teledu 'Porc peis bach' - ffilm a chyfresi y mae ef yn gyfrifol am eu hysgrifennu a yn un o'r prif actorion. Mae pawb sy'n f'adnabod i yn gwybod cymaint o edmygydd ydw i o gyfresi 'Porc peis bach'. Yr hyn sydd ond wedi fy nharo dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yw cymaint o lwyddiant a gafodd y cyfresi. I mi mae 'Porc peis bach' yn rhaglen soffistigedig gyda hiwmor sy'n gofyn am brofiad a gwybodaeth eang o'r Gymru anghydffurfiol ddiwylliedig eisteiddfodol Gymraeg sydd wedi hen ddiflannu. Felly mae'n dipyn o syndod fod plant ifanc a rhai yn ei harddegau cynnar yn mwynhau'r gyfres hefyd. Mae hyn'na yn dangos gallu rhyfeddol yn debyg i gomedïau sefyllfa chwedlonol Saesneg fel Are you being served? neu Dad's army.

Porc peis go iawnEfallai y bydd rhai yn teimlo fy mod yn gor-ddweud wrth gyfeirio at gyfresi felly, ond y gwir amdani yw fod 'na ysgrifennu ac actio athrylithgar yn y cyfresi drwyddi draw. Mewn cyfres sydd wedi rhedeg i 52 o raglenni, sef chwe chyfres o wyth, mae disgwyl i rai fod yn gryfach na'i gilydd, ond mae'r safon yn cael ei gynnal ar draws y rhaglenni. Dwi'n edmygu dyfesigarwch yr awdur a'r modd y mae'r actorion fel petaen nhw'n deall beth y mae'n ceisio ei gyflawni a bod hynny mor amlwg ar y sgrin.

'Kenneth Parry', arwr 'Porc peis bach'Os yw rhywun yn darllen hunangofiant Wynford, Raslas bach a mawr, fe welan nhw'n gyflym iawn cymaint o'i fywyd ei hun a'i deulu oedd yn rhan o'r ffilm 'Porc pei' a'r gyfres gyntaf o 'Porc peis bach'. Ond fe lwyddodd i ddatblygu dros y cyfresi dilynol i fynd ar ôl syniadau gwreiddiol nad oeddent yn brofiadau. Yr hyn oedd yn ddiddorol yn y sgwrs heno oedd fod Wynford yn dweud ei fod yn 'Porc peis bach' yn ceisio mynd i'r afael â'r rhagrith yr oedd ef wedi'i weld yn ystod ei blentyndod a'r orfodaeth oedd 'na ar bobol i fyw bywydau 'parchus' ond a oedd mewn gwirionedd yn golygu fod pobol yn byw celwydd. Fe soniodd yn benodol am rai o'r nodweddion o fywyd y gweinidog a'i deulu - gwelai'r cyfan fel aberth: aberth y gweinidog y gweinidog ei hun, aberth gwraig y gweinidog, ac hefyd yr aberth yr oedd yn rhaid i blant y gweinidog ei wneud - ac roedd y rhaglenni yn fodd iddo geisio dod i delerau â hynny i gyd. Mae'r 'Mans' wedi bod yn gymaint o ddylanwad ar bob agwedd ar ein bywyd cyhoeddus, diwylliannol, a gwleidyddol, yn ogystal â'r crefyddol, fel ei bod yn syndod nad oes neb wedi ysgrifennu am hyn - efallai bod rhywun wrthi'n ymchwilio ar hyn o bryd heb yn wybod imi.

Rhagor o luniau o Wynford Ellis Owen yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Tagiau Technorati: | | .