Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-20

Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda'r nos

Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda'r nos

Wrth imi adael y Llyfrgell Genedlaethol echnos dyma fi'n troi 'nôl i edrych ar y gwaith adeiladu sydd yn mynd yn ei flaen yno a sylwi'n sydyn ar y lliw gogoneddus oedd ar yr awyr a'r we ryfeddol yr oedd y scaffaldau yn eu creu dros y Llyfrgell. Felly fe dynnais i hwn a nifer o luniau eraill. Does gen i ddim camaera pwerus iawn na llawer o ddealltwriaeth o beth dwi'n ei wneud wrth dynnu lluniau (fel y mae pawb sy'n darllen y Blog Dogfael yn ei wybod), ond dwi'n eithaf balch o rai o'r ffotograffau gan fod y ddau beth yn drawiadol ac i'w gweld yn eglur yn y lluniau.

Rhagor o luniau o'r Llyfrgell Genedlaethol gyda'r nos.

Tagiau Technorati: .