Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-21

Fijne verjaardag Blog Dogfael!
Pen blwydd hapus Blog Dogfael!

Mae'n flwyddyn bellach ers imi ddechrau blogio. I ddweud y gwir mae'n flwyddyn a diwrnod ers imi gyhoeddi fy mwriad i flogio i'r holl fyd am y tro cyntaf ddydd Iau, 20 Ionawr 2005. Wrth fynd yn ôl at y blogiad hwnnw nawr dwi'n gweld fod y ddolen i'r erthygl yn yr Independent, ac mae hynny'n siŵr o fod yn wir am lawer o'r dolenni dwi wedi cyfeirio atynt yn y blog ar hyd y flwyddyn. Dwi ddim yn rhy siŵr beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Mae cadw Blog Dogfael yn waith, ond mae derbyn atborth yn rhoi pleser. Dwi'n gobeithio y bydd darllenwyr Blog Dogfael yn rhannu yn y dathlu wrth fwynhau'r llun o Liam (dwi ddim yn ei adnabod, dim dod o hyd iddo wrth frigo'r rhyngrwyd) yn mwynhau ei ben blwydd cyntaf yntau.


Llun o Liam gan Ben McLeod

Rhagor o luniau o Liam yn mwynhau ei barti yn flwydd oed.

Tagiau Technorati: | .