
Dwi wedi darllen dau o'r llyfrau o'r blaen - Country dance gan Margiad Evans, a Border country gan Raymond Williams. Mae gen i gywilydd dweud nad oeddwn i erioed wedi clywed am So long, Hector Bebb gan Ron Berry. Yn yr un modd mae'n rhaid imi gyfaddef imi geisio darllen Lewis Jones Cwm Mardy & We live yn y gorffennol a methu. Nid wyf wedi meddwl agor dim gan Gwyn Thomas ond mae'r gyfrol The dark philosophers yn edrych yn ddiddorol. Yr hyn sy'n dda am y gyfres yw bod y cloriau'n edrych yn ddeniadol. Mae cyfrol Lewis Jones, sy'n ddau waith mewn gwirionedd, yn rhyw 900 o dudalennau ac yn rhy fawr, ond mae'r gweddill yn iawn. Yr unig beth i fynd o dan eich croen yw'r defnydd ofnadwy o 'South Wales' gydag 's' fawr dros y lle i gyd.
Un peth arall a wnaeth fy nharo i yn ddiddorol oedd gweld logo Llywodraeth y Cynulliad yn gwenu arnoch chi'n braf o'r cloriau cefn. Dwi'n gwybod fod llywodraethau wedi noddi llyfrau ers blynyddoedd, yn arbennig yng Nghymru trwy Gyngor y celfyddydau a'r Cyngor llyfrau yn y gorffennol; ond mae gweld enw llywodraeth mor amwlg ar lyfr ffuglen yn dal i roi ychydig o sioc ichi. Efallai y buasai disgwyl i rywbeth o'r fath ddigwydd yn Albania o dan Enver Hoxha, neu Ddwyrain yr Almaen o dan Erich Honecker - ond nid yng Nghymru Rhodri Morgan!
Tagiau Technorati: Llyfrau.