Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-15

Gwibdaith i Ben Llŷn 2006-01-02 (4)

Neuadd MynythoAr ein ffordd i Aberdaron roeddem wedi teithio drwy Fynytho. Roeddwn i wedi bod yno o'r blaen, ond roedd hi'n flynyddoedd ers hynny ac felly dyma DJP a finnau'n stopio ger y Neuadd Goffa i weld a oedd englyn R. Williams Parry i Neuadd Mynytho yn ffeithiol gywir. Dwi'n ofni ei bod hi'n rhaid imi adrodd yn bendant taw "cerrig nid cariad yw'r meini" ac fe dynnais ddigon o luniau yno i brofi'r peth. Daeth Neuadd Mynytho i'r amlwg rai blynyddoedd yn ôl (os nad oeddech chi'n ffan 'ta beth oherwydd englyn RWP) pan gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yno a arweiniodd at sefydlu y mudiad Cymuned. Roedd 'na erthygl am Cymuned yn y rhifyn cyfredol o Golwg yn dangos sut mae'r mudiad wedi newid ers dyddiau "diwygadol" y cychwyn yn Neuaddd Mynytho - croeso i fyd go iawn bod yn grŵp pwyso!

Roeddwn yn gweld oddi wrth yr erthygl fod Cymuned yn bwriadu cyhoeddi dogfen cyn bo hir am iaith weinyddol fewnol Cyngor Sir Ceredigion. Dwi'n gwybod fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwneud rhywbeth tebyg ddechrau 2005 yn ei Siarter Ceredigion. Does ond gobeithio y bydd yr holl bwyso yma yn talu ffordd yn y diwedd oherwydd mae angen newid sylfaenol yng Ngheredigion os oes unrhyw obaith i'r iaith oroesi. Mae'r Cyngor Sir, yn weinyddwyr ac arweinwyr gwleidyddol, wedi cymryd y Gymraeg yn ganiataol ers cyhyd fel nad ydynt yn gwybod beth i'w wneud nawr yn wyneb yr hyn sydd wedi digwydd. Felly, yn y diwedd maen nhw'n gwneud dim byd ystyrlon iawn oherwydd nad oes ganddyn nhw weledigaeth gyfannol ar gyfer y Gymraeg yn y sir.

Cerrig nid cariad yw'r meini
"Cerrig nid cariad yw'r meini"

Rhagor o luniau Neuadd Mynytho.

Tagiau Technorati: | | | .