Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-16

Anrheg i fi fy hunan!


Wedi deufis a mwy o fyw heb argraffydd fe wnes i brynu anrheg i fi fy hunan ddydd Sadwrn sef cyfuniad o argraffydd a sganiwr. Dwi'n credu bod prynu cyfuniad fel hyn y beth dodji - os yw un yn torri mae'r llall weddol ddiwerth - ond mae'n arbed lot o le, ac mae hynny'n ystyriaeth bwysig pan ych chi'n byw mewn lle bach. Canon Pixma MP150 yw'r hyn wnes i brynu ac fel popeth y dyddiau 'ma mae e wedi'i fwriadu'n bennaf i argraffu ffotograffau o'ch camera digidol adref. Argraffu dogfennau fydda i fwyaf, ond mae'n dda cael modd o argraffu ffotograffau hefyd. Fe wnes i brynu'r argraffydd am taw Canon oedd y gwneuthurwyr, yr un gwneuthurwyr รข fy nghamera digidol a dwi wedi cael blwyddyn o bleser pur o ddefnyddio hwnww, a doeddwn chwaith ddim am wario llawer o arian oherwydd mae'r angen i argraffu pethau yn mynd yn llai ac yn llai. Gobeithio na chaf fy siomi ganddo; mae'r ychydig ffotograffau dwi wedi'u hargraffu'n barod (roedd 5 dalen o bapur argraffu glosi yn dod gyda'r argraffydd) yn edrych yn arbennig o dda.

Tagiau Technorati: | | .