Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-15

Gwibdaith i Ben Llŷn 2006-01-02 (3)

Ynysoedd Tudwal ac Abersoch o FynythoMae'n anodd credu fod rhywbeth i'r gorllewin o Bwllheli rywsut, mae dyn yn teimlo ei fod wedi teithio cyhyd a chyn belled ag y mae'n bosib mynd i'r gorllewin, er nad ydym mewn gwirionedd llawer mwy i'r gorllewin na lle ges i fy magu yn Sir Benfro. Ond mae'r ffordd yn dal i fynd yn ei blaen a'i dilyn y gwnaethon ni. Roeddem yn mynd i fynd am Aberdaron bellach, ond roedd amser yn ein herbyn oherwydd byddaui angen inni fod yn ôl yn Aberystwyth rhyw ben er mwyn mynd i'r gwaith drannoeth.

Tua'r gorllewin ar y B4413Mae'n rhaid taw'r diffyg traffig oedd yn gwneud i'r ffordd deimlo'n hir wrth inni basio trwy Llanbedrog a Mynytho. Yn y canol oesoedd dyma'r ffordd y buasai pererinion o'r de yn dynesu at Aberdaron a'r fordaith fer i Enlli ac mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn rhyfeddu at eu dycnwch - mae'n dal i fod yn dipyn o daith mewn car. Ymlaen â ni trwy Fotwnnog a Sarn Mellteyrn ac roedden ni'n dal i fynd. Ac yna yn sydyn o'n blaenau roedd Aberdaron yn cydio mor dynn â phosib wrth y graig rhag iddo lithro ryw ychydig a suddo i ganol y môr fel y digwyddodd i Gantre'r Gwaelod. Os oedd yr heolydd yn wag roedd Aberdaron ei hun yn weddol llawn gyda rhyw dri asbo yn hongian o gwmpas y sgwâr yn gwneud drygau. Rhaid oedd gweld Eglwys S. Hywyn - ond roedd y lle fel anialwch gyda gwaith adeiladu yn digwydd o gwmpas y fynedfa. Ond fe aethon ni i dop y rhiw oedd yn mynd heibio eglwys a chael golygfa wych o'r eglwys ei hun ac o'r pentref.


Rhagor o luniau o'r daith o Bwllheli i Aberdaron.

Tagiau Technorati: | .