Nid oes cymaint o bethau ar y ford yr wythnos hon. A hynny'n bennaf am fod DML yn gweithio'i ffordd yn araf trwy glamp o gyfrol Vikram Seth. Ond er gwybodaeth dyma beth mae DML yn ei ddarllen ac yn ei wrando.
O.N. Arbrawf diddorol
Os oes gennych chi gopi o rifyn 2006-01-12 o'r cylchgrawn
Golwg wrth law yna fe allwch chi fod yn rhan o arbrawf diddorol. Ar y clawr yr wythnos hon mae llun o'r actor Bryn Fôn yn chwarae rhan Les yn y gyfres deledu boblogaidd
Talcen caled, sydd wedi'i gosod yn Eifionydd. Gyda llun felly ar y clawr buasech yn disgwyl gweld stori fawr y tu fewn am Bryn Fôn, neu'r gyfres, neu rywbeth. Ond dwi'n ofni fy mod i'n methu dod o hyd i ddim heblaw am un cyfeiriad byr mewn gwyddor. Ydych chi'n medru profi Dogfael yn anghywir a dod o hyd i'r stori am
Talcen caled yn y rhifyn hwn o
Golwg? Atebion ar ffurf sylwadau os gwelwch yn dda.
Tagiau Technorati:
Llyfrau |
Cerddoriaeth.