Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-13

Gwibdaith i Ben Llŷn 2006-01-02 (2)

Siop Spar, PorthmadogPetai Cymru yn genedl go iawn, hynny yw yn wladwriaeth, buasai bysus o ymwelwyr brodorol yn heidio i Borthmadog i ddilyn 'Trywydd Talen Caled' o dan arweiniad tywysydd profiadol bob penwythnos. Buasai hwnnw wedyn yn mynd â'i ddiadell o selogion i weld y mannau hynny lle ffilmiwyd golygfeydd allweddol yn y gyfres Talcen caled ym Mhorthmadog ar cyffiniau, ac fe fusen i gyda'r cyntaf i gofrestru ar gyfer taith o'r fath. Dyna un rheswm nad oeddwn i'n medru gweud 'na' i gynnig DJP i ddod gydag e i'r gogledd. Pan gyrhaeddon ni mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn edrych bob munud gan ddisgwyl gweld Meic yn dod mas o'r Spar ar y Stryd Fawr, neu Gloria ym maes parcio Tesco, neu Les ei hun yn Kwiks. Yn anffodus ni welais yr un o'r cymeriadau hyn, ond fe welais i ddigon o strydoedd Porthmadog i'm cadw yn hapus am y tro.

CriciethWedi i DJP wneud yr hyn yr oedd wedi dod i Borthmadog i'w wneud fe wnaeth gynnig imi na allwn ei wrthod sef mynd i Gricieth i weld gwesty Gloria. Sôn am sioc bleserus. Mae Gloria wedi troi ei chefn ar Borthmadog gyffredin ac wedi mynd 'lan y farchnad' i Gricieth; felly hefyd Meic ac Audrey. Roedd yn rhaid derbyn y cynnig gan DJP. Y tro diwethaf imi dreulio amser go iawn yng Nghricieth oedd pan oeddwn i yn y coleg ac yn ymweld â ffrind oedd yn byw yng Nghricieth. Roedd hynny ddiwedd y 1970au. Ychydig yn gynt roeddwn i wedi treulio'r wythnos yno yn ystod yr eisteddfod genedlaethol yn 1975. Erbyn heddiw dwi ddim yn adnabod y lle o gwbl. Felly roedd hi'n ddiddorol cael mynd i lawr i'r traeth a gweld y gwestai mawr a bach ar hyd y ffrynt.

Un peth rhyfedd am Gricieth wrth gwrs yw'r modd y defnyddir y ffurf anghywir 'Criccieth' yn gyson ar yr arwyddion. Dwi'n gwybod yr hanes i gyd, a dwi'n dal i ryfeddu at ddylanwad unigolyn i bob pwrpas i wrthsefyll yr hyn sydd mor anghywir anghyson yn ôl rheolau sillafu'r Gymraeg! Efallai taw echreiddigrwydd fel 'na sy'n gwneud yr ardal hon gyda'r mwyaf hynod yn y Gymru Gymraeg. Beth yw'r gwanahiaeth rhwng penderfynol a phenstiff?

Roedden ni'n edrych am le i gael cinio, ond ar ŵyl y banc doedd hynny ddim yn hawdd. Ganol haf ac nid ganol gaeaf mae'r ymwelwyr yn heidio i Lŷn ac Eifionydd. Doedd dim lle addas i'w weld yng Nghricieth felly fe aethon ni yn ein blaenau i Bwllheli. Roedd DJP yn ei hwyliau nawr, ac roeddwn i'n medru teimlo na fyddai Pwllheli yn ddiwedd y daith inni. Roedd fel petai 'pen draw'r byd', neu Aberdaron, yn denu.

Caffi Blue Moon, PwllheliOnd cyn Aberdaron roedd yn rhaid inni gael cinio. Felly dyma barcio ar y Maes ym Mhwllhei a dechrau chwilio. Doedd dim rhyw lawer o ddim byd ar agor. Ond o'r diwedd dyma ddod o hyd i gaffi bach y Blue Moon Tea Rooms. Roedd y fwydlen yn uniaith Saesneg ac enwau'r ddau berchennog yn ddigon dieithr. Ond pan ddaeth y weinyddwraig at ein bwrdd roedd hi'n siarad Cymraeg ac fe wnaethon ni archebu powlenaid o gawl yr un, cawl llysiau'r canoldir, ac roedd yn ddigon blasus. Fe geisiais i archebu diet Coke, a dyma fi'n cael yr ateb "Tydan ni ddim yn gwneud fizzy drinks, dim ond sudd." Roedd rhywbeth yn wahanol ynglŷn â'r tea rooms. I bwdin fe gefais ddarn o sbwng Buddug ffres, dwi'n ofni nad ydw i'n cofio beth gafodd DJP.

Rhagor o luniau o Borthmadog.

Lluniau o'r daith o Borthmadog i Bwllheli.

Tagiau Technorati: | | | .