Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-12

Gwibdaith i Ben Llŷn 2006-01-02 (1)

Afon DyfiWedi dod adref o Fryste yr oeddwn i'n bwriadu treulio'r dydd trannoeth yn gwneud dim ond paratoi yn feddyliol ac yn emosiynol ar gyfer dychwelyd i'r gwaith wedi'r gwyliau estynedig. Ond y nos Sul dyma DJP yn ffonio ac yn dweud ei bod hi'n rhaid iddo fynd i'r gogledd drannoeth gan holi a oeddwn i'n ffansïo gwibdaith yn ei gwmni. Dwi'n dwli ar wibdeithiau, felly fe dderbyniais yn syth. Gan ein bod yn anelu am Borthmadog roedd hi'n gyfle hefyd i ymweld â gwlad 'Talcen Caled' - y gyfres deledu am ddiflastod byw yn Eifionydd sydd yn ffefryn gen i. Yn y diwedd doeddwn i ddim wedi disgwyl y daith a gafwyd i 'ben draw'r byd', tu hwnt i 'Talcen Caled, ond fe wnes i enjoio mas draw.

Niwl, Bwlch yr OerddrwsWrth adael Aberystwyth yn bore roedd popeth yn iawn, ond yn fuan dechreuodd edrych fel petai'n mynd i fod yn daith ddiflas o ran beth fusen ni'n gweld. Roedd 'na niwl trwchus ym mhob man. Fe lwyddais i berswadio DJP i ddilyn y ffordd drwy Fallwyd i'r gogledd, yn hytrach na diflastod yr A487. Ond wrth ddringo i fyny o Ddinas Mawddwy am Fwlch yr Oerddrws roedd hi'n edrych yn debyg na welen ni ddim y diwrnod hwnnw. Ac eto roedd rhyw hud yn hynny. Fel mab i Ddyfed dwi wedi hen arfer â niwl, ac wrth i'r niwl guddio Preseli slawer dydd roedd yn ychwanegu at y mystique oedd i'w brofi. Yn bendant roedd hynny'n wir am y daith hon. Ond yn sydyn wrth groesi'r bwlch fe newidiodd pethau'n ddramatig - ychydig niwl o hyd, ond dim tebyg i'r hyn a welwyd wrth ddrigo - a'r cyfan oedd yn sbwlio ein golygfa oedd lori sbwriel Gwynedd o'n blaenau. Roedd honno wedi hen ddiflannu wrth inni deithio heibio i'r Rhinogydd, ac ymlaen i Borthmadog deg.


Rhagor o luniau o'r daith o Aberystwyth i Borthmadog.

Tagiau Technorati: | .