Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-14

Darlith Prys Morgan ar sefydlu'r Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol

Geraint Talfan Davies a Prys MorganBues i mewn noson arbennig iawn neithiwr wedi'i threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig, sef darlith gan yr Athro Emeritws Prys Morgan. Roedd e'n darlithio ar greu Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan fod y Sefydliad Materion Cymreig wedi trefnu cyfres o 8 darlith yn arwain i fyny at nodi canmlwyddiant sefydlu'r ddau sefydliad yn 2007. Teitl cyffredinol y gyfres yw 'Edrych yn ôl ac edrych ymlaen', neu'n hytrach 'Myths, memories and futures' am taw yn Saesneg y traddodir y darlithoedd. Bydd y darlithoedd yn digwydd bob deufis am yn ail yn y Llyfrgell yn Aberystwyth a'r Amgueddfa yng Nghaerdydd.

Prys Morgan yn darlithioTro'r Llyfrgell oedd i fod yn gartref i'r ddarlith gyntaf. Roedd darlithfa'r Llyfrgell, Drwm, yn llawn o symudwyr a siglwyr ar gyfer y noson. Cadeirydd y noson oedd Geraint Talfan Davies, gŵr sydd wedi bod yn y newyddion dros y dyddiau diwethaf oherwydd gwrthdaro rhyngddo â Llywodraeth y Cynulliad ynlgŷn â'i swydd fel cadeirydd Cyngor y Celfyddydau. Gan taw prif weinidog y Llwyodraeth yw Rhodri Morgan, brawd Prys Morgan, mae'n rhaid fod hynny wedi ychwanegu rhyw frisson ychwanegol o gyffro i'r holl beth. Wrth gwrs, does dim angen frisson ychwanegol pan fo Prys Morgan yn darlithio, mae'n gwneud popeth gyda'r fath panache, ac roedd y ddarlith neithiwr yn enghraifft wych o hynny. Roedd ei ddarlith yn frith o straeon ac anecdotau difyr, ond yn fwy na dim roedd yn ddehongliad ac yn grynhoad gwerthfawr o'r ffactorau a arweiniodd at sefydlu'r ddau sefydliad cenedlaethol.

John Herbert Lewis (1858-1933)Fel un sydd wedi astudio Brad y Llyfrau Gleision a golygu cyfrol werthfawr ar y pwnc, nid yw'n rhyfedd fod Prys Morgan yn olrhain dechreuadau'r mudiad am Amgueddfa/Llyfrgell Genedlaethol i'r digwyddad dirdynnol hwnnw yn hanes Cymru. Fe welai ef y tair ffrwd o ymateb i'r Llyfrau Gleision - iwtalitariaeth, gwladgarwch/cenedlaetholdeb, a phwyslais ar Gymru anghydffurfiol - yn dod at ei gilydd mewn ffordd o siarad i gytuno ar yr angen am sefydliadau fel y Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol. Fe wnaeth olrhain sut wnaeth y ffrydiau gwahanol hyn ddylanwadu yn eu ffyrdd eu hunain ar y broses a arweiniodd at y sefydlu. Yn ddiddorol iawn yr oedd yn credu taw sefydliadau sylfaenol gwrth-Brydeinig oeddynt am eu bod wedi'u hennill yn wyneb gwrthwynebiad llywodraeth y dydd. Cafodd y sefydliadau yma eu gorfodi ar y llywodraeth yn hytrach na thyfu allan o imperialaeth Edwardaidd. Roedd ei ddarlith hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol ar ran rhai o brif gymeriadau yr hanes megis T. E. Ellis, Herbert Lewis a David Lloyd George. O'r hyn y gallwn i ei ddeall Lloyd George a ddarparodd yr arian oedd ei angen pan sefydlwyd y Llyfrgell a'r Amgueddfa er mwyn codi'r adeiladau, ond dycnwch Herbert Lewis fel aelod seneddol bwrdeistrefi Sir y Fflint oedd yn gyfrifol am gael y maen i'r wal yn y diwedd.

Roedd llawer mwy na hynny y ddarlith a bydd cyfle i'w darllen ynghyd â'r darlithoedd eraill yng nggyfres y Sefydliad Materion Cymreig mewn cyfrol a gyhoeddir yn 2007. Felly bydd yn rhaid bod yn amyneddgar.

Rhagor o luniau o Prys Morgan yn darlithio.

Tagiau Technorati: | | | .