Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-21

Ydych chi'n voyeur?


Ysgol Biwmares
Llwythwyd yn wreiddiol gan traed mawr.
Mae'n oes y voyeur. Does dim sy'n profi hynny'n well na'r miliynau sy'n gwylio Celebrity Big Brother ar hyn o bryd. Mae pawb yn eiddgar iawn i weld pa gampau y bydd George Galloway yn eu gwneud nesaf. Wel fe allwch chi fod yn voyeur ac eto i gyd gadw ychydig o'ch hunan barch. Mae traed mawr wedi agor ei fywyd i fyny i'r rhai sy'n defnyddio flickr drwy lwytho ffotograffau hanesyddol ohono'i hun a'i deulu yno. Mae'r ffotograffau yn wych ac mae nifer ohonoynt fel petai'r ffotograffwyr yn gwybod y buasai pobol yn mynd i edrych arnynt yn y dyfodol ac wedi mynd allan o'u ffordd i greu delweddau trawiadol. Mae'r llun hwn o Ysgol Gynradd Bliwmaras yn ddiddorol iawn am ei fod yn dangos Margaret Williams, a ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach fel cantores, gyda'i dosbarth pan roedd yn gweithio fel athrawes yno. Mae 'na ddwsinau o luniau difyr eraill yn y casgliad.

Rhagor o luniau o gasgliad traed mawr 'Pwy ydw i?'

Tagiau Technorati: | | .