Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-11

Calan ym Mryste - Diwrnod 3 (2)

Pont Clifton, BrysteGall neb fynd i Clifton i weld Coleg y Bedyddwyr ac wedyn mynd oddi yno heb groesi creadigaeth ryfeddol Isambard Kingdom Brunel, pencampwr ymhlith peirianwyr. Erbyn hyn mae'n cael ei ddathlu fel y mwyaf ymhlith y Saeson/Prydeinwyr - ond ceisiwr lloches oedd ei dad oddi wrth y chwyldro yn Ffrainc a aeth i ogledd America i ddechrau, ac yna a ddaeth i Loegr. Fel ei fab roedd yntau yn beiriannydd. Gyrrwyd IKB i Ffrainc am ei addysg cyn dychwelyd i weithio i gwmni ei dad yn Lloegr. Yn ystod ei fywyd bu'n gyfrifol am bob math o brosiectau, ond fe'i cofir yn bennaf am ei waith fel prif beiriannydd y Great Western Railway. Yr oedd hefyd yn gyfrifol am godi degau o bontydd, gan gynnwys Pont Grog Clifton, neu'r Clifton Suspension Bridge.

Pont reilffordd Cas-gwent ca. 1850 - Llyfrgell Genedlaethol CymruWedi penderfynu codi pont dros afon Avon yn Clifton cafwyd cystadleuaeth ar gyfer y cynllun i'w ddefnyddio. Fel beirniad fe ddewiswyd Thomas Telford, un o brif beiriannwyr ei ddydd. Fe wrthododd ef pob cynllun ac yn lle hynny dyma yntau yn cynhurchu ei gynllun ei hun ac yn rhoi'r wobr iddo'i hunan. Doedd hynny ddim yn boblogaidd ac fe gynhaliwyd cystadleuaeth arall a'r tro hwn IKB oedd yn fuddugol, ei waith mawr cyntaf. Ond er i'r gwaith ddechrau yn 1831 cafwyd problemau mawrion ac fe roddwyd y gorau i'r gwaith tan ar ôl marwolaeth IKB yn 1859, pan aethpwyd ati i'w gorffen fel teyrnged iddo ef. Fe'i cwblhawyd yn 1864. Mae toll i'w thalu ar y bont, ond nid yw' 30c yn llawer am y profiad. Mae'r llun yn dangos un arall o bontydd IKB, sef pont reilffordd Cas-gwent. Daw'r llun o gasgliad Tirlun Cymru y Llyfrgell Genedlaethol.

Ac ar ôl croesi'r bont doedd dim troi 'nôl ac ymlaen â ni am Ail Bont Hafren a Chymru.

Rhagor i luniau o Bont Clifton.

Tagiau Technorati: | .