Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-08

Calan ym Mryste - Diwrnod 3 (1)

Coleg y Bedyddwyr, BrysteAr ôl noson hwyr, diwrnod o gerdded, a methu deg â chysgu'r noson gynt, doedd dim brys codi arna i. Felly tra roedd RO a Dr HW yn brecwesta fe fues i'n gorwedd yn y gwely. Ond yn y diwedd roedd yn rhaid codi a bant â ni ganol y bore i weld dau beth arall ym Mryste cyn troi ein golygon tuag at Gymru. Nawr, dwi'n gwybod ei fod yn mynd i swnio'n rhyfedd, ond y lle cyntaf yr oeddem am ymweld ag ef oedd Coleg y Bedyddwyr. Sefydlwyd 'coleg' er mwyn hyfforddi ymgeiswyr i'r weinidogaeth fedyddiedig ym Mryste yn 1679 gan aelod o Eglwys Fedyddiedig Broadmead. Fel rhai oedd wedi ymwrthod â'r eglwys wladol nid oedd hi'n bosib i fedyddwyr dderbyn addysg yn y prifysgolion - felly roedd coleg neu academi eu hunain yn hanfodol er mwyn addysgu gweinidogion. Roedd coleg Bryste gyda'r cyntaf bu cysylltiad agos â Chymru hyd nes sefydlu colegau yno. Mae llyfrgell y coleg yn cynnwys llawer o lawysgrifau Cymreig a Chymraeg pwysig - gan gynnwyrhai gan Joshua Thomas, Llanllieni, hanesydd cyntaf Bedyddwyr Cymru - yn ymwneud â'r Bedyddwyr, felly roedd yn rhaid ymweld â'r lle cyn gadael y ddinas. Erbyn heddiw mae'r coleg wedi'i leoli yn ardal Clifton.

John Rippon, 'Towards a history of Bristol Baptist College' yn The Baptist memorial and monthly chronicle. Hydref 1843.

Ble mae Coleg y Bedyddwyr, Bryste?

Rhagor o luniau o Goleg y Bedyddwyr, Bryste.

Tagiau Technorati: | .