Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-07

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (12)

IJ yn yr ystafell nos Galan ar gyfer gwein a niblauWedi dianc o ganolfan siopa The Mall Galleries roeddwn i'n falch iawn o ddod 'nôl i'r gwesty. Roeddwn i wedi blino'n lân gyda'r holl gerdded ac roedd yn rhaid imi orffwys am ychydig. Bwriad pawb arall oedd mynd mas am bryd i fwyty Eidalaidd ond roeddwn i'n falch iawn 'mod i wedi penderfynu aros yn y gwesty a gwneud dim. Dwi'n gwybod fod rhai pobol yn fy ngweld i'n òd iawn am ddymuno aros mewn ar nos Galan. Wel, dyna'r ffordd dwi'n hoffi gwneud pethau. Fel arfer byddaf yn cydymffurfio â phwysedd o du cyfeillio a dod alla, ond yn fy nghalon o flaen y tân neu hyd yn oed yn y gwely buasai fy newis le i fod nos Galan. Fel mae'n digwydd roeddwn i wedi prynu potel o win Minervois ac ychydig niblau i'm cadw i fynd ac yn y diwedd fe ges i gwmni hyfryd IJ. Doedd e ddim wedi trefnu lle iddo'i hunan yn y bwyty ac felly fe gefais ei ddifyrwch yntau drwy'r nos. Ar ôl swper siomedig o bysgod a sglodion fe aeth IJ a finnau 'nôl i'r ystafell i sipian gwin ac i niblo niblau.

Yna am ryw 11.45pm dyma Dr HW yn dod heibio'r ystafell inni ddod lawr i'r bar ar gyfer dyfodiad y flwyddyn newydd - dyna lle'r oedd y rhan fwyaf o'r criw o Aberystwyth y blant ac yn famau. Ni chlywais neb yn canu 'Auld lang syne' (os dyna sut mae sillfau'r peth) ac o ganlyniad chefais i mo'r cyfle i holi rhyw beth yw ystyr y geiriau. Roeddwn i'n fwy na pharod i fynd i'r gwely am 12.45am ac fe es i gysgu'n syth. Roedd y flwyddyn newydd wedi dod! Hwre!

Yn gynharach yn y noson, tua rhyw 7.00pm, fe gafwyd arddangosfa dân gwyllt yn y parc y tu fas i ffenest fy ystafell. Roedd yn wych gweld yr holl liwiau yn yr awyr. Roedd hi'n gywir fel bod yn Sydney neu Paris neu Beijing neu... Fryste!

Tân gwyllt, Bryste

Rhagor o luniau o dân gwyllt Bryste.

Tagiau Technorati: | | .