Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-06

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (8)

Capel yr Arglwydd Faer, BrysteWedi cinio ym mwyty Browns fe wnaeth pawb ymrannu - IJ yn anelu am oriel Arnolfini, Dr HW ac RO am y siopau llyfrau, a finnau'n cerdded 'nôl yn hamddenol (h.y. araf iawn) am y gwesty. Roedd hyn yn golgyu mynd lawr Park Street unwaith eto. Ar waelod y rhiw saif eglwys arbennig iawn, sef eglwys S. Marc, neu'n hytrach Capel Arglwydd Faer Bryste. Dyma'r unig eglwys yn Lloegr sy'n eiddo i ac yn cael ei chynnal fel eglwys gan awdurdod lleol, sef Cyngor Dinas Bryste. Y capel yw'r unig ran o ysbyty canoloesol sy'n dal i sefyll. Adeg y diddymiad fe brynwyd y capel gan Gorfforaeth Bryste. Am gyfnod ddiwedd y 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif bu'r adeilad yn addoldy i'r Huguenotiaid a adawodd Ffrainc yn 1685. Yn anffodus roedd y capel ar gau ac felly ni chefais gyfle i weld y tu fewn sydd i fod yn arbennig o hardd. Dyna esgus da dros ddychwelyd i Fryste rhyw ddydd.

Mae'r wefan Gristnogol ddychanol Ship of fools yn cynnal arolwg o wasanaethau mewn gwahanol gapeli ac eglwysi gan ddefnyddio 'addolwr cudd' neu 'mystery worshipper'. Yn ddiddorol iawn bu'r addolwr cudd mewn gwasanaeth yng Nghapel y Maer, Bryste.

Tagiau Technorati: | .