Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-06

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (9)

Gwylnos heddwch Bryste yn yr HippodromeWrth gyrraedd yn ôl i'r Hippodrome fe welais olygfa gyfarwydd. Mae Gwylnos Heddwch Bryste wedi bod yn sefyll yma am ryw awr bob dydd er 11 Medi 2001. Mae Crynwyr Bryste yn rhan annatod o'r wylnos, gan ddangos eu bod yn dal yn weithgar yn y ddinas. Ym Mryste ceir un o'r seddau seneddol a gollodd Llafur i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod etholiad cyffredinol 2005 - Bristol West, a'r aelod yw Stephen Williams. Sedd brifysgol yw hon ac mae'n debyg taw'r bleidlais fyfyrwyr a'u consyrn am ffioedd a rhyfel Irác oedd yn gyfrifol am y fuddugoliaeth y Dem Rhyddiaid dros Lafur yma. Mae Stephen Williams yn un o'r aelodau seneddol sydd wedi arwyddo'r llythyr yn dweud y bydd yn ymddiswyddo o'r fainc flaen os na fydd Charles Kennedy'n ymddiswyddo ei hun cyn dydd Llun.

Cloc, Eglwys Crist, BrysteWedi cael gair i ddangos fy nghefnogaeth mynd ymlaen â fi ar fy nhaith yn ôl i'r gwesty. O'r Hippodrome dyma fynd trwy Corn Street. Mae'n amlwg fod y stryd hon wedi bod yn bwysig iawn ar un adeg gyda'i hadeiladau mawr ac arwyddocaol yr olwg. Erbyn hyn mae'n llawn bwytai ac ar un pen saif hen eglwys S. Nicolas a'r gyfnewidfa ŷd yn cynnwys y Nails sydd bellach yn farchnad. Mae'n rhaid bod Bryste yn lle crefyddol iawn yn y 16eg ganrif gan bod 17 plwyf yn y ddinas bryd hynny a phob un â'i eglwys. Yng nghanol yr hen ddinas o gwmpas lle mae hen Eglwys S. Nicolas roedd 'na bedair eglwys arall bron â bod ar ben eiglydd - Eglwys Crist, Eglwys yr Holl Saint, Eglwys S. Mary-le-port, ac Eglwys S. Ewen. Mae Eglwys Crist ac Eglwys yr Holl Saint yn dal i weithrdu fel eglwysi hyd heddiw, mae Eglwys S. Ewen wedi diflannu, a dim ond tŵr S. Mary-le-port sydd ar ôl.

Tagiau Technorati: | | | .