
Erbyn roeddwn i angen cinio, ac felly dyma geisio dod o hyd i Dr HW ac IJ. Roedd y ddau wedi dringo Park Street ac yn awgrymu ein bod yn cael cinio ym mwyty
Browns. Ar dop Park Street saif y
Wills Memorial Building a'r tŵr sy'n rhan ohono. Dyma un o adeiladau mwyaf trawiadol Prifysgol Bryste a'r ddinas ac fe dalwyd amdano gan nawdd teulu Wills,
W.D. & H.O Wills, a wnaeth ffortiwn mewn tybaco! Bu teulu Wills yn hael iawn i'r brifysgol. Erbyn heddiw mae gan Fryste ychydig o broblem; er bod pawb yn ddigon hapus i dderbyn arian, nid yw cyfiawnhau a dathlu arian sy'n wedi dod o gaethwasiaeth a thybaco yr un mor hawdd i'w wneud ag yr oedd yn y gorffennol.
Tagiau Technorati:
Tybaco |
Bryste.