Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-06

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (6)

Neuadd y ddinas, BrysteGyferbyn â'r eglwys gadeiriol ym Mryste saif neuadd y ddinas, neu The Council House fel y maen nhw ei alw. Mae'n adeilad urddasol sy'n gartref i Gyngor Dinas Bryste. Mae'r adeilad yn un urddasol iawn ar ffurf hanner cylch yn edrych allan dros lawnt y mae'n rhannu gyda'r eglwys gadeirol. Dechreuwyd ei godi yn y 1930au, ond ni chafodd ei gwblhau tan ar ôl yr ail ryfel byd yn 1956. Yn drawiadol iawn mae dau uncorn euraid yn sefyll ar y to ar bob pen i'r adeilad - maen nhw'n yn gyfeiriad at yr unicorniaid sydd ar arfbais y ddinas.

Uncorn, Neuadd y ddinas, BrysteCyngor unedol yw Cyngor Dinas Bryste â phoblogaeth o ryw hanner miliwn. Ar hyn o bryd mae'r cyngor o dan reolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a'r arweinydd yw Barbara Janke - ond gyda'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf 'ma yn achos Charles Kennedy, efallai y bydd hynny'n newid yn yr etholiadau nesaf! Rhaid imi gyfaddef, er cydymdeimlo â sefyllfa bersonol y dyn, fy mod yn credu iddo ddangos mwy o deyrngarwch i Charles Kennedy na'r blaid Rhydd Dem dros y mater hwn. Mae'r dyn yn sâl, mae angen amser arno i wella, felly fe ddylai sefyll i lawr am gyfnod. Ond o wneud hynny fe fyddai rhywun arall yn cael ei ddwylo ar yr arweinyddiaeth ac fe fyddai yntau wedi'i cholli am byth. Ond o wybod ei fod yn sâl ac nad oes ganddo'r ddoethineb i sefyll lawr, mae'n amlwg y bydd hynny yn cael effaith ar barodrwydd pobol i ymddiried ynddo yntau ac yn ei blaid.

A beth am aelodau seneddol Dem Rhydd Cymru? Mae Lembit Öpik a Roger Williams yn amddiffynwyr cadarn, ond mae Jenny Willot wedi datgan ei bod hi'n bryd iddo fynd. Beth yw barn Mark Williams, tybed? Neu a yw e heb farn ar y mater? Does dim sôn am ei farn yntau ar wefan newyddion y BBC.

Efallai nad yw Mark Williams wedi bod yn rhyw amlwg iawn dros y dyddiau diwethaf 'ma, ond mae un cyn-wleidydd wedi cael modd i fyw, sef Rod Richards. Ar ôl ei gwymp gwleidyddol yntau oherwydd ei alcoholiaeth - ac achos nad oedd neb arall o'i blaid ei hun yn medru dod ymlaen gydaag ef - mae e wedi bod ar bob sianel deledu a radio yn adrodd am ei brofiadau yntau. Mewn rhyw ffordd mae'n dda ei weld e 'nôl, ond diolch byth nad yw e gwleidydda. Dwi'n credu fod yr hyn sy wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf 'ma yn rhyw fath o affirmiad i wleidyddion llwyd a digyffro... gobeithio!

Rhagor o luniau o Dŷ'r cyngor, Bryste.

Tagiau Technorati: | | | | .