Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-05

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (4)

Eglwys gadeiriol BrysteRoedd hi'n werth y drafferth i gerdded draw i Park Street ac ardal y Brifysgol, oherwydd yno hefyd oedd yr eglwys gadeiriol, neuadd y ddinas, a phob math o bethau diddorol eraill. Wrth inni gyrraedd College Green dyma hi'n bwrw glaw yn drwm iawn am ryw 10 munud a'r pedwar ohonom yn cysgodi mewn mynedfa nes bod y storm wedi mynd heibio. Aeth Dr HW a IJ ar eu ffordd i siopa a RO a minnau am yr eglwys gadeiriol. Roedd hi'n dal i fwrw wrth inni groesi'r gofod o flaen neuadd y ddinas am yr eglwys gadeiriol ac roeddwn yn falch iawn o gyrraedd y porth.

Porth yr abaty Normanaidd, BrysteAbaty oedd yr eglwys yn wreiddiol a sefydlwyd yn y 12fed ganrif. Gyda'r newidiadau crefyddol yn yr 16fed ganrif fe ddiddymwyd yr abaty ac yn 1542 fe drowyd yr adeilad yn eglwys gadeirol, Eglwys Gadeiriol y Drindod Sanctaidd ac Anwahanol, Bryste. Cyn hynny roedd Bryste yn rhan o esgobaeth Caerwrangon. Ni wnaethon ni dreulio digon o amser o bell ffordd yn yr eglwys gadeiriol i weld ei holl gyfoeth, ond roeddem erbyn hynny yn meddwl am ein cinio! Roeddwn i wedi gobeithio cael cinio yn ffreutur yr eglwys gadeiriol, ond yn nhymor y gwyliau roedd hynny amhosib gan fod y lle ar gau. Roeddem ni yno hefyd wrth i wasanaeth gychwyn; felly er gwyched yr adeilad ac er cymaint y trysorau, ar ôl edrych yn frysiog o gwmpas dyma fynd yn ein blaenau.

Tu fas i ddrws gorllewinol yr eglwsy gadeiriol (a godwyd yn y 19eg ganrif, gyda llaw) safai hen borth yr abaty, ac yn cysgodi oddi tano roedd holl berchnogion Asbos Bryste yr ymddangosai i mi, a phob un ohonynt yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth regi sy'n cymaint rhan o fywyd pob dydd pobl ifainc yr oes hon. Wrth eu clywed yn sgrechen rhegfeydd yn acen hyfryd Bryste ni allwn ond meddwl am y cymeriad hwnnw oddi ar y rhaglen gomedi Little Britain, sef Vicky Pollard. I ddweud y gwir pa le bynnag yr oeddech chi'n mynd ym Mryste roeddech chi'n rhyw feddwl fod Vicky yn eich dilyn o gwmpas.

Rhagor o luniau o eglwys gadeirol Bryste.

Tagiau Technorati: | | .