Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-05

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (3)

Cerflun Edward Colston, Colston Sq., BrysteWedi ein hymweliad â chapel John Wesley dyma alw yn y Costa Coffee drws nesa er mwyn cael hoe ar ôl yr holl gyffro. Wedyn roedd yn rhaid penderfynu beth i'w wneud nesaf. Roedd Dr HW am siopa ac fe awgrymodd IJ ein bod yn mynd tuag at Park Street yn ardal y brifysgol. Roedd e'n edrych yn bell ar y map, roedd e'n teimlo'n bell ar y traed hefyd! Ond fe gawsom gyfle i weld mwy ar Fryste wrth gerdded. Fe gerddon ni o ardal Broadmead heibio i gerflun Edward Colston a thuag at College Green. Roedd cerflun Colston yn atgoffa dyn fod y ddinas fodern wedi'i sylfeini ar y fasnach gaethweision ac roedd ôl Colston i'w weld ym mhob man - Colston Street, Colston Tower, Colston Hall, Colston Square!

Ganed Edward Colston ym Mryste yn 1636. Daeth yn ddyn busnes llwyddiannus trwy fasnach ac yn 1680 daeth yn aelod o'r Royal African Company; roedd ganddynt hwy fonopoli ym Mhrydain ar y fasnach aur, ifori a chaethweision. O ganlyniad fe daeth Colston yn ddyn cyfoethog iawn, ac fe ddefnyddiodd ei gyfoeth mewn ffordd hael tuag at ei ddinas enedigol gan roi arian tuag at bob math o bethau. Cymaint oedd ei ddylanwad ar y ddinas fel yr oedd hi'n arfer cadw Dydd Gwyl Colston ar 13 Tachwedd! Bu farw yn 1721 a'i gladdu yn y ddinas.

Gwefan 'Bristol Slavery'.

Tagiau Technorati: | | .