Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-05

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (5)

Cerflun Rajah Rammohun Roy, Bryste

Tu fas i borth gorllewinol yr eglwys gadeiriol a ger y fynedfa i neuadd y ddinas saif cerflun Raja Rammohun Roy (1772-1833). Fe ddadorchuddiwyd y cerflun ar achlysur nodi hanner canmlwyddiant sefydlu gwladwriaeth India yn 1997, ac er nad oeddwn i wedi clywed am Roy hyd gweld y cerflun rwy'n gwybod erbyn hyn ei fod yn cael ei ystyried yn un o sylfaenwyr India fodern. Mae ei gerflun yma ym Mryste am iddo farw yn y ddinas.

Tagiau Technorati: | .