Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-05

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (2)

Wesley's New Room, BrysteNid Tŷ-cwrdd y Crynwyr oedd yr olaf o'n hymweliadau gyda adeiladau Cristnogol hynod y ddinas. O fewn dim roeddem wedi dod o hyd i'r nesaf. Yng nghanol canolfan siopa Broadmead a'r temlau i dduwiau masnach, materoliaeth a chyfalafiaeth - ac enwau'r duwiau hynny yw Woolwoorth, Debenhams, Marks & Spencer, a'r gweddill - gellir dod o hyd i werddon o ysbrydolrwydd, sef y New Room. Mae'n lle rhyfeddol, a dwi'n siŵr fod pawb sy'n taro i mewn i'r adeilad yn ymwybodol o'r heddwch a'r tangnefedd sydd yma o'i gymharu â'r ras fawr fasnachol y tu fas - a dwi'n meddwl pawb, pobol o bob crefydd ac o ddim crefydd o gwbl.

Wesley's New Room, BrysteWrth gwrs mae i'r New Room le pwysig yn hanes Cristnogaeth a'r hyn sy'n taro dyn heddiw yw sut bu hi i'r lle oroesi. Yn ystod yr Ail ryfel byd fe fomiwyd Bryste yn drwm ac fe ddifrodwyd ardal Broadmead yn ddifrifol. Ond yn wyrthiol (yn llythrennol a throsiadol, efallai!), fe arbedwyd y New Room, a dyna'r rheswm ei fod yn gorwedd heddiw yng nghanol y ganolfan siopa goncrit chwedegaidd sy'n denu cymaint i ymweld â'r ddinas. Wrth inni ymweld â'r New Room mewn roedd hi'n ddiddorol iawn sylwi fod nifer yn taro i mewn am bum munud i eistedd yn nhawelwch y lle arbennig hwn. Mae'n amlwg ei fod yn boblogaidd fel noddfa. Yn rhyfedd ddigon dwi'n ofni i ni dorri ychydig ar heddwch y lle oherwydd cymaint ein mwynhâd. Roedd yn rhaid dangos popeth i bawb!

Cerflun Charles Wesley, Wesley's New Room, BrysteCodwyd yr adeilad yn 1739 pan ddechreuodd John Wesley ar ei genhadaeth i dlodion Bryste. Nid dim ond lle i addoli oedd y capel; cynhelid seiadau a dosbarthiadau yno, ac fe'i defnyddid hefyd ei ddefnyddio i rannu moddion. Uwchben y capel ei hun roedd gan John Wesley fflat lle byddai yntau a phregethwyr eraill yn aros. Un o'r rheiny oedd ei frawd, Charles Wesley, prif emynydd Methodistiaeth Wesleyaidd. Cafodd ei emynau eu cyfieithu i'r Gymraeg, wrth gwrs, ar ddefnydd Methodistiaid Cymraeg, ond fe'u canwyd gan bob enwad. Ceir 12 emyn yn Caneuon ffydd, yn eu plith "Iesu tirion, gwêl yn awr / blentyn bach yn plygu lawr" a gyfieithwyd gan W. O. Evans, 1864-1936 (Caneuon ffydd, 373). Fy hoff emyn i yw "O am dafodau fil mewn hwyl" a gyfieithwyd gan Robert Williams, 1804-55 (Caneuon ffydd, 288).

Dyma ddyfyniad o record gan Maddy Prior with the Carnival Band, Sing lustily & with good courage : gallery hymns of the 18th and early 19th centuries (Saydisc, CD-SDL 383; 1990) lle maen nhw'n canu fy hoff emyn. Mae'r record hon yn wych ac yn werth i'w phrynu. Os oedden nhw'n canu gyda'r brwdfrydedd hwn yn y ddeunawfed ganrif sdim rhyfedd i emynau Charles Wesley fod yn boblogaidd!


Ffeil MP3

Ble mae New Room, neu Gapel John Wesley?

Rhagor o luniau o'r New Room, Bryste.

Tagiau Technorati: | | | .