Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-05

Calan ym Mryste - Diwrnod 2 (1)

Tŷ cwrdd y Cyfeillion, Quakers Friars, BrysteMethu'n deg â chysgu drwy'r nos ac felly roedd hi'n anodd iawn codi'n fore ar gyfer brecwast cynnar! Ond dyna oedd ein trefniant gan ein bod am fynd mas i'r ddinas yn gynnar i weld a gwneud cymaint ag yr oedd hi'n ddoeth i'w weld a'i wneud ar wyliau. Ein nod cyntaf oedd Capel John Wesley, neu'r New Room, sef y capel Methodistaidd (h.y. Wesleyaidd) cyntaf. Y ni oedd RO, Dr HW, IJ, a finnau. Ond ar ein ffordd dyma ddod ar draws hen dŷ-cwrdd a oedd yn eiddo i'r Cyfeillion, neu'r Crynwyr, sef The Friars yn cuddio mewn stryd gefn y tu ôl i'r siopau. Erbyn heddiw mae'n swyddfa gofrestru, ond bu'r Crynwyr yn cyfarfod ar y safle o 1670 hyd at 1956, ac fe godwyd yr adeilad sydd yno ar hyn o bryd yn 1747. Yn sownd wrth y tŷ-cwrdd ei hun mae 'na adeilad sy'n llawer hŷn, sef hen dŷ'r brodyr. Erbyn heddiw mae'r ddau adeilad wedi'u cyfuno ac mae'n debyg fod seremonïau priodas a phartneriaethau sifil yn cael eu cynnal yno bellach. Yn rhyfedd ddigon ar y safle yma hefyd y priododd George Fox, sylfaenydd Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion, â Margaret Fell, fis Hydref 1669.

Ble mae Quakers Friars ym Mryste?

Rhagor o luniau o Quakers Friars.

Tagiau Technorati: | .