Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-04

Calan ym Mryste - Diwrnod 1 (3)

Criw Aberystwyth yng ngwesty Marriott Bristol City CentreAr ôl gwneud fy hun yn gyfforddus yn yr ystafell yn y gwesty fe es i am dro i mewn i ganol y ddinas. Doedd hynny ddim yn llawer o drafferth gan fod y gwesty yn agos iawn i'r canol. Roeddwn i'n edrych am fotelaid neu ddwy o ddŵr i'm cadw i fynd yn ystod y nos a'r bore trannoeth, roeddwn hefyd yn ceisio cael rhyw fath o ddealltwriaeth o sut oedd y ddinas ei hun yn gweithio. Roedd y gwesty yn ardal siopa enwog Broadmead - bomiwyd y rhan hon o'r ddinas yn helaeth yn ystod yr ail ryfel byd, ac felly mae'n dioddef o'r ailadeiladu rhad a chyflym a ddigwyddodd yn sgil hynny. Ar hyn o bryd mae cynllun newydd gychwyn i ddatblygu a gwella'r ardal, Broadmead Buisnes Improvement District. Fe gerddais drwy Broadmead a heibio i'r siopau mawr i lawr hyd at Colston Avenue ac yna yn ôl ar hyd Corn Street a Wine Street i'r gwesty.

Wedi dod 'nôl i'r gwesty roedd gweddill y criw wedi cyrraedd. Ond doedden nhw ddim yn aros yn hir - roedden nhw'n mynd mas am bryd o fwyd. Ond roeddwn i'n aros yn y gwesty. Fe gefais i Dr HW yn gwmni ac roedden ni'n mynd i'r gwely yn gynnar, er mwyn bod yn barod ar gyfer ein haturiaethau drannoeth.

Yr holl luniau o'r diwrnod cyntaf y trip Calan i Fryste.

Tagiau Technorati: | | .