Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-03

Calan ym Mryste - Diwrnod 1 (2)

marriottRoedden ni'n aros mewn yn o westai cadwyn Marriott, Bristol Marriott Hotel City Centre. Mae aros mewn gwesty fel hyn yn anrheg hyfryd i chi'ch hun ar eich gwyliau. Roeddwn i'n rhannu ystafell gyda RO ac roedd dau wely dwbl ynddi ynghyd รข theledu mawr, ystafell ymolchi ac wrth gwrs y bar mini. Roedd hi'n bosib cael bwyd yn eich ystafell unrhyw awr o'r dydd a'r nos ac yn well byth roedd gennym olygfa allan dros y ddinas o'n balcon. Nid oeddwn i'n ddigon metnrus mentrus i fynd mas ar y balcon fy hun, ond roeddwn yn medru mwynhau'r olygfa o ddiogelwch yr ystafell. Mae'n neis iawn aros mewn gwesty!

Yr olygfa o falcon yr ystafell.

Rhagor o luniau o'r Bristol Marriott Hotel City Centre.

Tagiau Technorati: | | .