Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-03

Calan ym Mryste - Diwrnod 1 (1)

Teithio i lawr

Golygfa rhwng Llanfair-ym-Muallt ac ErwydDwi wedi bod 'nôl yn y gwaith am ddiwrnod bellach ac mae gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd yn hanes. Mae'n anodd credu 'mod i wedi bod ym Mryste am dridiau lai nag wythnos yn ôl. Mae 'na griw bach o Aberystwyth yn teithio Ewrop i ddathlu'r flwyddyn newydd, ond dwi erioed wedi ymuno â nhw - gormod o drafferth ffitio'r cyfan i fewn i ychydig ddyddiau a hynny ar ôl y Nadolig pan fo angen gorffwys i ymdopi gyda phopeth arall. Ond eleni roedd pawb yr oeddwn i'n eu hadnabod bron yn gadael Aberystwyth dros y calan, felly roedd yn rhaid cyfaddawdu. Roedd RO yn fodlon gwneud yr holl drefniadau a'r cyfan oedd ar ôl i mi gyfrannu oedd fy hunan. Roedd Dr HW yn dod gyda ni. Felly yn gymharol fore dydd Gwener diwethaf dyma'r tri ohonom yn gadael Aberystwyth yng nghar RO gan anelu at Fryste. Doedd hi ddim yn fore braf iawn, glaw a niwl. Wrth gwrs fe allai fod wedi bod yn waeth gan fod y rhagolygon wedi sôn am eira a rhew a allai fod wedi atal ein taith yn gyfangwbl.

Ysbyty Nevill Hall, Y FenniWedi teithio Powys o'r pen i'r gwaelod bron, fe gyrhaeddon ni'r Fenni erbyn amser cinio a phenderfynu cymryd hwnnw yn nhafarn Wetherspoons yn y dref, y Coliseum. Roedd yn rhaid disgwyl dri chwarter awr am ginio, ond erbyn hynny roeddem ni yn y lle ac fe bednerfynon ni aros. Yn ddiweddarach (ond cyn inni gael cinio) dyma IBJ, GC, y teulu a MLlW yn galw heibio gan obeithio gael cinio - ond roedd y lle yn llawn ac aethon nhw yn eu blaenau i chwilio am ginio mewn man arall.

Doedd dim llawer o amser i aros ar y ffordd gan ein bod am gyrraedd Bryste cyn gynted â phosib. Roedd darn nesaf y daith yn fwy anodd - ffyrdd deuol, traffyrdd, pontydd ar draws afon Hafren, a'r ffordd i mewn i Fryste ei hun. Roeddwn i yng ngofal y mapiau, a dyw hi ddim yn hawdd llywio pan fo'r tywydd yn braf a phopeth i'w weld yn eglur. Ond yn y diwedd ni chafwyd llawer o broblemau ac fe gawsom ein hunain yn y gwesty cyn 4.00pm.

Tagiau Technorati: | | .