Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-02

Blwyddyn newydd dda!

Tân gwyllt, BrysteDwi'n gwybod ei bod hi'n ail o Ionawr, ond dyma'r cyfle cyntaf sy wedi bod gen-i i ddymuno blwyddyn newydd dda i ddarllenwyr Blog Dogfael. Mae'n wir fy mod wedi dod 'nôl o Fryste neithiwr gyda digon o amser i'w sbario er mwyn torri ychydig linellau ar y blog, ond fe fues i'n ddioglyd a gadael y peth tan heddiw. Ond heddiw fe gefais gynnig gwibdaith i'r gogledd gan DJP. Ac felly mae'n ddiwedd bron ar yr ail ddiwrnod yn 2006 arna i'n taflu y cyfarchiad blynyddol atoch chi. Mae gennyf ddigonedd o hanesion i'w hadrodd am y calan ym Mryste ac am y wibdaith i Lŷn ac fe fyddaf yn ceisio gwneud hynny dros y diwrnodau nesaf 'ma. Dwi heb wneud unrhyw adduned ar gyfer y flwyddyn newydd, ond dwi gobeithio'n fawr na fydd cadw at hynny'n ormod o broblem. Yfory bydda' i'n mynd yn ôl i'r gwaith wedi dros wythnos o wyliau - fe fydd yn sioc go iawn i'r sustem!

Tagiau Technorati: .