Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-30

Beth? Dim mwstas!

RO 2005-12-29Yn y bore bues i allan i Ystafelloedd Te y Cambria am goffi a hufen ia gyda WVD - sgwrs ddiddorol iawn fel arfer. Roedd hi'n dweud am ei Nadolig gyda'i mam ym Mhorthmadog a Harlech. Troes y sgwrs, fel arfer, at iaith a chymdeithaseg iaith. Ond y newyddion mawr o'r dydd heddiw yw fod y mwstas wedi diflannu oddi ar wyneb RO. Mae'n rhyfedd fel mae dyn yn dod yn gyfarwydd â rhyw agwedd neu'i gilydd ar unigolyn a phan fod y peth hynny'n newid mae'n amhosib peidio â llygadrythu ar y peth (neu'r diffyg). Fel un sydd wedi bod â mwstas ers blynyddoedd mae'n rhaid imi bleidio achos mwstasys fel gwrthrychau sy'n rhoi i ddyn urddas ac awdurdod ac ar yr un pryd yn rhoi iddo rywbeth i ddael gafael ynddo pan fo pethau'n mynd yn anodd. Ond gan fy mod i wedi troi cefn ar fwstas er mwyn mynd am fochyn cyflawn y barf, rhaid affirmadu penderfyniad RO i ddilyn y llwybr arall tuag at ddiffyg blew ar yr wyneb - mae'r ddau yn ymateb yr un mor ddilys i broblem oesol dynoliaeth!

Yfory dwi'n mynd ar fy ffordd i Fryste yn ne-orllewin Lloegr am ddwy noson yng nghwmni RO a Dr HW - byddaf yno ar gyfer y Calan. Dwi'n gobeithio'n fawr medru cysylltu gyda'r blog eto cyn gynted â phosib.

Tagiau Technorati: .