Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-04

Wedi'r ffair

TLlJ yn mwynhau siocled poeth arbennig Caesar's wedi'r ffairErbyn 4.30pm roedd y Ffair Nadolig ar ben ac felly dyma fi a GC, IBJ, MLJ, TLlJ ac Elwyn yn penderfynu mynd i gaffi am ddiod er mwyn ceisio ymlacio ar ôl holl waith y ffair. I ddweud y gwir fi oedd wedi gwneud lleiaf - doeddwn i ddim â gofal stondin eleni ac fe wnes i jyst mwynhau crwydro o gwmpas a gweld pwy oedd yno a phrynu a photsian o gwmpas. Roedd pawb ac un peth arall i'w wneud, felly fe es i a MLJ a TLlJ yn ein blaenau. Aethon ni i Caesar's - fe ges i ysgytlaeth mawr banana, ac fe gafodd y ddau arall y siocled poeth arbennig gan gynnwys hufen a marsmalwau. Roedd y tri ohonm wrth ein boddau! Fe dynnais i lun o'r ddau arall i ddangos cymaint o fwynhad sydd i'w gael o gwpanaid o siocled poeth gydag ychydig hufen a marsmalwau.

MLJ yn mwynhau siocled poeth arbennig Caesar's wedi'r ffair

Tagiau Technorati: .