Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-04

Mae'r Nadolig ar ei ffordd siwrnai 'to

Roedd MWR yn barod i weini ar bawb!Dyfodiad gwenoliaid yw'r arwydd fod y gwanwyn ar ei ffordd go iawn i nifer fawr o bobol. I nifer yng nghylch Aberystwyth Ffair Nadolig Plaid Cymru yw'r arwydd fod y Nadolig ar ei ffordd go iawn hefyd. Ers i mi gofio mae'r ffair hon wedi wedi bod yn ddigwyddiad pwysig yn y calendar cenedlaetholgar yng ngogledd Ceredigion. Dwi'n rhyw frith gofio mynd i'r ffair yn Neuadd y Brenin (o barchus goffadwriaeth) yn 1978. Roeddwn i newydd ymuno â Phlaid Cymru am y tro cyntaf wrth ddod i'r Coleg. O fewn dim i'r ffair roeddwn i mas yn ymgyrchu yn y refferendwm trychinebus ym Mawrth 1979, a chwedyn yn canfasio gyda Dr Dafydd Huws fel ymgeisydd y blaid yn etholiad Mai 1979. Felly mae'r ffair yn dod ag atgofion chwerwfelys yn ôl i mi gan fy mod yn dal i synhwyro'r dyddiau duon hynny yn y cefndir o hyn. Roedd 'na rai cymylau duon yn y ffurfafen ddydd Sadwrn eto, ond yr oedd y pwyslais fel arfer ar y ffair fel digwyddiad cymdeithasol yn dod â chenedlaetholwyr gogledd y sir at ei gilydd am un diwrnod.

DI wrth y twba lwcus - mae pawb yn ennill gwobr!Yr oedd digoedd o stondinau yn y ffaith yn cystadlu am sylw; felly fe wnes i'n siŵr fy mod yn prynu oddi ar pob stondin y gallwn i gan fod cymaint wedi gwneud ymdrech. Prynais ddwy darten (un i fi fy hunan a'r llall i DML) oddi ar y stondin gacennau; prynais ddau botiad o fêl oddi ar y stondin fêl; ychydig o nic-naciau oddi ar y stondin seren bren, gan gynnwys darn o Tupperware ar gyfer gweini piclau o bob math (3 mewn gwirionedd); roeddwn yn llweyddiannus ar y stodin dombola gan ennill tun bychan o diwna; prynais botyn o gwrd lemwn a photyn marmalêd ar y stondin cynnyrch cartref; dau lyfr ar y stondin lyfrau ail-law (Cerdd dafod gan John Morris Jones, a fu'n eiddo i LlD agorydd y Ffair a chyn hynny i Emyr Llywelyn; a Noddwyr y beirdd yn Sir Feirionnydd gan Glenys Davies); cefais goffi a chacen yn y bar coffi; prynais ffob allweddi CymruX; prynais raffl (ac fe ennillais bad ysgrifennu); a chefais un cyfle ar y rhaens saethu. Petai pawb wedi gwario'n ddwl fel finnau fuasai dim prinder arian gan Blaid Cymru!

Rhagor o luniau o'r Ffair Nadolig.

Tagiau Technorati: | | | .