Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-05

Tupperware a Princess Anne

Dwi wedi adrodd o'r blaen imi gael darn o Dupperware yn Ffair Nadolig Plaid Cymru ddydd Sadwrn. Peth i ddal neu weini piclau fusen i'n ei alw. Roeddwn wrth fy modd yn cael gafael ynddo gan ei fod yn dod yn ôl â chymaint o atgofion imi am fy ieuenctid. Dwi ddim yn gwybod pryd yn union y cychwynwyd cynhyrchu'r Tupperware yma ar gyfer gweini piclau, ond dwi'n bendant yn cofio fod un gennym ni adref tua 1973. Oherwydd dwi'n cofio taw dyna'r flwyddyn y priododd Mark Phillips a'r Dywysoges Anne. Ar y pryd yr oeddwn yn dipyn o frenhinwr, ac roedd camprwydd y briodas frenhinol - yn arbennig Anne mewn gwisg briodas ffug-Duduraidd - yn apelio'n fawr iawn ata i. O fewn ychydig fisoedd, wrth gwrs, roeddwn yn weriniaethwr sosialaidd chwyldroadol. Ond peth fel 'na yw bod yn eich arddegau. Roedd y gweinydd piclau a phriodas Princess Anne ar y pryd yn rhan o fy ymlyniad i werthoedd y dosbarth canol yr oeddwn wedi eu canfod trwy wylio llawer gormod o raglenni Blue Peter ar y BBC. Peidied neb â gwadu fod y BBC yn gyfrwng propaganda. Os oedden nhw'n medru gwneud hynny i grwt i un o fois yr hewl a hôm help o Fynachlog-ddu, fe allen nhw droi pen unrhyw un.

Tupperware - gweinydd piclauFel arfer fe fuse'r gweinydd piclau yn ymddangos ar nos Sul yn ein tŷ, yn arbennig yn y gaeaf. Wedi cinio dydd Sul fe fydden ni'n cael cig oer gyda'r nos ynghyd â salad yn null Preseli (sef letys, tomato, cucumer a shibwns) gyda phiclau - winwns wedi'u piclod, cabaets coch, a coleslaw neu salad llysiau (o dun yn amal iawn). Rhaid imi gyfaddef fy mod i'n mwynhau hyn yn fwy na chinio dydd Sul bryd hynny. Roeddwn i'n teimlo'n soffistigedig iawn wrth helpu fy hun i fwyd o'r gweinydd piclau. Uniaethwn fy hun â'r teulu brenhinol gan gredu eu bod nhw'n defnyddio gweinydd piclau tebyg ym Mhalas Buckingham. Wrth dyfu fe sylweddolais pa mor ddwl oedd y syniad.

Ond yn ddiweddarach fe droes gŵr o Fôn, y newyddiadurwr Ryan Parry, yn wahadden wrth gael gwaith yn y palas brenhinol yn 2003 a gweini ar eu mawrhydi a wedyn gwerthu ei stori i'r Daily mirror. O'i brofiad yntau yno fe ddaeth hi'n amlwg fod y teulu brenhinol yn hoff iawn o ddeunydd Tupperware, yn arbennig felly y frenhines. Felly doedd fy ffantasi flynyddoedd yn ôl ym Mynachlog-ddu heb fod yn bell iawn o'r gwir. Nawr dwi'n medru ail-fyw'r ffantasi unwaith eto yn fy fflat yn Aberystwyth diolch i Ffair Nadolig Plaid Cymru.

I ddarllen y stori yn y Daily mirror am y Frenhines a'i Thupperware.

Rhagor o luniau o'r gweinydd piclau Tupperware.

Tagiau Technorati: | | | .