
Neithiwr fe fues i'n crwydro strydoedd Aberystwyth ar y ffordd 'nôl o gaffi Fresh Ground i'r fflat. Am y tro cyntaf fe gefais gyfle i rydeeu at y goleuadau Nadolig sydd yn addurno cynifer o strydoedd y dref. Dwi ddim yn gwybod faint mae'r cyfan yn ei gostio i drethdalwyr Aberystywth a Phenparcau, ond dwi'n meddwl fod yr arddangosfa yn un effeithiol a chwaethus. Yn y Stryd Fawr ceir neges goleuedig dwyieithog 'Nadolig Llawen / Merry Christmas' yn fflachio'n gyson - efallai taw dyna fy hoff addurn golau i ohonyn nhw i gyd. Mae gweithrediad ymarferol yr egwyddor ddwyieithog wastad yn fy niddanu!
Rhagor o luniau o sioe oleuadau Nadolig Aberystwyth.Tagiau Technorati:
Nadolig |
Aberystwyth.