Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-02

Sic transit gloria belle vui

Hunan bortread yn y Belle VueFe fues i a chyfaill yn y Belle Vue yn gynnar yn y nos neithiwr. Mae'r bar yno wedi bod yn echreiddig iawn erioed yn fy mhrofiad i. Fe aeth yn fwy echreiddig fyth wedi iddyn nhw ail-gynllunio'r lle rhyw flwyddyn neu fwy yn ôl a gosod y cadeiriau enfawr yna yn y bar. Nawr mae'r bar yn llawn cadeiriau a dim rhyw lawer o le i ddim byd arall. Neithiwr wrth iddi nosi roedd y goleuadau a'r dyrchau a'r lliw melynfrown yn gwneud i'r lle edrych fel rhyw gaffi yn Wien oedd wedi colli ei ogoniant ac yn disgwyl am ryw oes aur newydd i roi bywyd iddo unwaith eto. Ac roedd hynny'n rhyw adlewyrchu sut roeddwn i'n teimlo hefyd, ac felly dyma wneud yr hunan bortread hwn i geisio dal y teimlad hwnnw.

Tagiau Technorati: | .