Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-24

Owain Huw Wright yn cael ei ladd mewn damwain ffordd

Mae byd o wahaniaeth rhwng beth roedd Alwen a Owain Selway yn ei wneud â cherddoriaeth Rheinallt H. Rowlands. Ond fe ellid dadlau taw Alwen ac Owain Selway wnaeth arloesi yn y byd canu poblogaidd Cymraeg gan hwyluso'r ffordd i'r grwpiau diweddaraf. Mae'n drist iawn wedyn gorfod cofnodi fod un o aelodau Rheinallt H. Rowlands, Owain Huw Wright, wedi'i ladd mewn damwain ffordd lai nag wythnos wedi i Owain Selway gael ei ladd mewn tân. Doeddwn i ddim yn adnabod Owain, neu Oz fel yr oedd yn cael ei alw, o gwbl, ond roedd e wedi cyffwrdd â'm bywyd trwy ei gerddoriaeth. Doedd dim grŵp arall tebyg i Rheinall H. Rowlands - roedd eu gwreiddioldeb yn rhywbeth i'w edmygu, ac roedd talent Owain Wright yn rhyfeddol i greu y fath sain wrth ganu - rhaid ei glywed i werthfawrogi. Yn ôl yr hyn a ddarllenais ar daflog roedd yn cerdded adref o gig gan Euros Childs ym Mangor pan gafodd ei daro gan gar a'i ladd.

Os am gael rhyw syniad o'r fath o gerddoriaeth roedd Owain yn creu gyda Rheinallt H. Rowlands dyma ddyfyniad byr (45 eiliad) allan o'r gân 'Weithiau'. Gellir clywed y gân yn llawn ar y CD Triskadekaphilia (Recordiau Ankst CD 061).


Ffeil MP3

Dyro iddo, O Arglwydd, orffwys tragwyddol
a llewyrched. goleuni gwastadol arno. Amen


Tagiau Technorati: | | .