Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-25

Dydd Nadolig 2005

Mae e wedi dod o'r diwedd ar ôl yr holl ddisgwyl a dwi'n barod amdano. Fe godais i'n gymharnol gynnar - rhyw 7.45am - a dwi wedi bod yn rhyw botsian o gwmaps y tŷ. Mewn llai nag awr dwi'n mynd i fynd mas i wasanaeth Cymrun Bendigaid yn Eglwys S. Mair. Ar ôl dod 'nôl o fan'ny dwi'n bwriadu dechrau paratoi cinio. Rhoi'r ragu 'nôl i ferwi ac yna gosod gweddill y pryd at ei gilydd. Dwi'n dechrau gydag eog a chorgimwch ac wedyn i orffen dwi'n cael pwdin Nadolig gyda hufen. Does dim llawer o waith gyda'r rheiny - dim ond eu rhoi nhw a ei gilydd fel 'painting by numbers'. Dwi'n dal i fod yn ansicr a ydw i'n mynd i wneud pasta ffres ai peidio; ei wneud fyddai'r peth Nadoligaidd ffyslyd i'w wneud, ond a ydw i eisiau cael blawd ym mhoban. Bydd yn rhaid imi benderfynu erbyn rhyw 12.00pm.

Tagiau Technorati: .