Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-24

Coginio'r ragu ar gyfer 'fory

Ychwanegu'r tomatosHeno dwi wedi bod wrthi'n brysur yn coginio'r ragu ar gyfer cinio 'fory. Dwi'n dal i fod mewn dau feddwl ynglŷn â'r pasta ffres i fynd gydag e, ond fe fydd y ragu yn ffres. Yn y lle cyntaf fe wnes i gymryd winwns a'u torri'n fân, garlleg a'i dorri'n fân a'u ffrïo'n araf nes eu bod yn coginio. Wedyn cymryd y briwgig. Fel mae'n digwydd fe brynais i friwgig isel mewn braster yn Siop Co-op Waunfawr neithiwr. Roedd wedi'i rewi, ond mae wedi bod yn dadmer dros nos ac roedd yn barod i'w ddefnyddio. Fel arfer byddaf i'n ffrïo'r winwns a'r garlleg am ryw chwarter awr cyn rhoi'r briwgig i mewn. Wedyn byddaf yn ychwanegu'r perlysiau ac yn ffrïo'r cyfan am ryw bum munud nes bo'r briwgig wedi'i frowno. Yna ychwanegu'r tomatos. Fe wnes i ddefnyddio tomatos mewn tuniau ac un carto o passata - dyna fel dwi'n lico fy ragu!

Dwi ddim wedi gorffen eto mae angen ychwanegu rhai cynhwysion eraill: pupur du wedi'i falu; ychydig bach o halen (ychydig bach iawn mewn gwirionedd oherwydd rhai o'r cyhwysion eraill), piwre tomatos, ac Oxo llysiau (mae digon o halen yn hwn) i wneud y stoc. Wedyn byddaf yn ychwanegu peth gwin coch a dwi'nhoff iawn o fadarch yn fy ragu a'r rhieny wedi berwi yn ddim bron bod. Y peth nesaf pwysig yw sicrhau fod y cyfan yn mud-ferwi am rhyw ddwy awr neu ddwy awr a hanner. Byddaf yn berwi heno hyd rhyw 11.30pm ac yna mynd i'r gwely a berwi am rhyw awr bore 'fory ar ôl dod adre o'r cwrdd. Isod gwelir lluniau'r ragu wrth iddo ddechrau mudferwi, ac yna ar ôl 30 munud, ac yna ar ôl awr. (Gellir clicio ar y lluniau i'w gweld yn fwy.)

Ychwanegu'r gwin, madarch, a dŵr wedi berwi i'r sospanY ragu wedi iddo fudferwi am 30 munudY ragu wedi rhyw awr o fudferwi

Rhagor o luniau o gynhwysion y ragu ac o'r broses goginio.

Tagiau Technorati: | | .