Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-17

Noson arall, parti arall

Pawb yn barod am y daith i Giliau AeronNeithiwr fe fues i mewn parti Nadolig arall. Dwi'n gwybod fod hyn yn gwneud imi swnio fel rhyw fath o 'anifail partïon' yn byw fy mywyd o un amser da i'r llall. Does dim byd a allai fod yn bellach o'r gwirionedd. Dwi'n hoff iawn o gwmni pobol, ond dwi hefyd yn hoff iawn o aros adref ac eistedd o flaen cyfrifiadur yn meindo fy musnes fy hun. Parti'r gwaith oedd gen i neithiwr eto, ond gyda grŵp gwahanol o gydweithwyr! A'r tro hwn roedd y peth yn dipyn o antur gan ein bod yn mynd o gyfforddusrwydd saff Aberystwyth a'r cyffiniau i ganol Ceredigion ac i Dyglyn Aeron, Ciliau Aeron. Wrth gwrs roedd cyrraedd Tyglyn Aeron yn golygu cael bws mini ac felly buodd hi. Roedden ni'n gadael y dref erbyn rhyw 6.00pm ac ar ein ffordd i gyrraedd yno yn saff erbyn 7.00pm.

Doedd y lle ddim yn llawn 2Mae rhai pethau'n swnio'n syniad da pan ych chi'n sôn amdanyn nhw heb ystyried y goblygiadau i gyd, ac roedd hynny'n bendant yn wir am fynd i Dyglyn Aeron. Dwi'n credu i mi sôn am fynd y tu fas i'r dref, ond ers i rywun fod mor garedig â threfnu hynny roeddwn i wedi bod yn poeni am ymarferoldeb y cyfan. Fel y digwyddodd fe aeth yr holl drefniadau fel wats. Yr unig beth oedd yn rhyfedd oedd y ffaith ein bod wrth archebu lle yn Nhyglyn Aeron wedi cael yr argraff fod y lle yn orlawn a'u bod nhw'n gwneud cymwynas â ni wrth ffitio ni i fewn. Fel mae'n digwydd fe gawson ni ystafell fawr WAG i ni'n hunain!

Ar ôl cael dau ginio traddodiadol ddydd Mercher roeddwn i'n falch iawn fy mod wedi penderfynu peidio â chael pryd cwbl draddodiadol neithwir. Do, mae'n ddigon gwir imi gael salad cofgimwch i gychwyn (fel y bydda' i'n ei wneud bob tro mae 'na gorgimwch ar y fwydlen), ond yn lle'r cig rhost fe ddewisais gnau rhost gyda saws tomato, wedyn torte siocled, a choffi a mins pei i orffen.
Cwrs cyntaf: salad corgimwchAil gwrs: cnau rhost cnau gyda llysiau
Trydydd cwrs: torte siocledCoffi a mins pei

Ac roedd popeth yn digon blasus. Dwi'n ofni fy mod yn mynd yn ôl at fy hen gŵyn ynglŷn â diffyg saws bara. Oes rhywbeth wedi digwydd? Ydy bwirocratiaid Llywodraeth y Cynulliad, neu Asiantaeth Safonau Bwyd, neu hyd yn oed yr Undeb Ewropeaidd, wedi datgan fod saws bara yn beryglus i'r iechyd? Dyna ichi Brydain Tony Blair ichi - yfed 24-awr a dim saws bara! Tybed beth yw polisi David Cameron a saws bara... tybed beth yw polisi David Camerion ar unrhyw beth?

Gwenwch!Nid oedd ein noson yn gorffen yn Nghyglyn Aeron, roeddem yn mynd yn ôl i'r dref i gyfarfod â mwy o gydweithwyr oedd allan 'o gwmpas y dref' fel maen nhw'n ei ddweud. Er mwyn profi nad ydw i yn 'anifail partïon' rhaid imi ddweud fy mod yn falch ein bod yn ôl yn gynnar er mwyn mynd i'r gwely! Felly ffarweliais â gweddill y grŵp ac adref â mi. Cyn mynd i'r gwely roedd gen i un dyletswydd i'w wneud, sef llwytho'r ffotograffau roeddwn i wedi'u tynnu o'r noson ar flickr, a dyna wnes i. Noson dda iawn - diolch i bawb a wnaeth wneud y gwaith caled o drefnu!

Rhagor o luniau o'n noson mas yn Nhyglyn Aeron a'r daith yno ac yn ôl ar y bws.

Tagiau Technorati: | | .